Gallwch lawrlwytho ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2026 – 2029 a dysgu mwy am ein cyfeiriad a’n blaenoriaethau ar gyfer blynyddoedd sydd i ddod.
Rydyn ni’n falch iawn i lansio ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2026 – 2029. Mae’n fap ffordd o’r hyn rydyn ni’n ei wneud a pham ein bod ni’n gwneud hynny. Rydym yn trafod ein cenhadaeth a’n gweledigaeth, ein huchelgeisiau a’n galluogwyr, a sut y byddwn yn mynd ati i fesur llwyddiant.
Mae pob Undeb Myfyrwyr yn unigryw, ond rydym ni’n arbennig. O nifer o gampysau ar draws Cymru a Lloegr i feysydd pwnc sy’n amrywio o Beirianneg i’r Dyniaethau, prentisiaethau mewn Cyfrifiadura i’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr.
Mae’r Undeb Myfyrwyr hwn yn canolbwyntio ar sut y gall rymuso myfyrwyr trwy eu galluogi i roi cynnig ar bethau newydd, datblygu sgiliau, eirioli drostynt eu hunain, lleisio eu barn ar draws gwledydd, llywodraethau a’r Brifysgol, a’u hannog i gael hwyl ar hyd y ffordd.
Nid ydym yn generig ac nid yw ein strategaeth chwaith. Byddwn yn parhau i ymateb i faterion cenedlaethol, byddwn yn arwain myfyrwyr trwy hinsawdd reoleiddio newydd ac yn gwella eu sgiliau wrth wneud hynny. Hynny gyda thîm staff sy’n ymroddedig i greu amgylchedd lle gall pob myfyriwr ffynnu yn PCyDDS.
Yn ogystal â’r strategaeth hon bydd cynllun gweithredu a fydd yn datblygu ymhellach sut y byddwn yn cyflawni’r amcanion. Bydd ein prosesau rheoli perfformiad yn gysylltiedig â chyflawni’r amcanion strategol. Y tu allan i’r prosesau hyn, bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn monitro’r strategaeth yn weithredol gyda diweddariadau’n cael eu darparu ym mhob cyfarfod.