Rydyn ni am i bob myfyriwr deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel ble bynnag maen nhw'n byw. Felly, p'un a ydych chi'n aros mewn neuaddau, yn rhentu'n breifat neu'n chwilio am dŷ neu fflat, mae ein hadran tai a llety’n cynnig cyngor gwych; o ddelio â materion tai, i ganllawiau ar gyfer contractau a blaen-daliadau i gymorth ariannol.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i dyluno i helpu'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr, ond gall y gyfraith dai amrywio ledled y DU. Os ydych yn rhentu yn Lloegr, efallai y bydd rheolau gwahanol yn gymwys, gan gynnwys newidiadau diweddar o dan Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025, y gallwch ddarllen mwy amdani yma. Defnyddiwch y ddewislen isod i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi neu anfonwch e-bost atom yn su.advice@uwtsd.ac.uk.
“Mae gan fyfyrwyr yr hawl i gartref diogel fel disgwyliad sylfaenol” – Caitlin, Shelter Cymru
Rydym wedi creu rhestr o adnoddau, elusennau a rhwydweithiau cymorth defnyddiol i'ch helpu i wybod beth eich hawliau a chael cymorth sy'n gysylltiedig â llety a thai.
| Sefydliad | Pam mae'n ddefnyddiol? | Dolen |
|---|---|---|
| Cyngor gan Undeb y Myfyrwyr - Canllaw Tai | Canllaw tai wedi'i deilwra ar gyfer myfyrwyr PCyDDS, yn cwmpasu gwybodaeth allweddol am ddod o hyd i lety, contractau, blaendaliadau a byw gyda phobl eraill. | Canllaw Tai Undeb y Myfyrwyr @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS |
| Cyngor ar Bopeth |
Cyngor annibynnol ar hawliau tai, rhentu, blaendaliadau, delio â landlordiaid a datrys problemau sy'n gysylltiedig â thai. |
Cyngor gan Gyngor ar Bopeth |
| Shelter Cymru | Elusen tai arbenigol sy'n darparu cyngor a chymorth ar rentu, contractau meddiannaeth, blaendaliadau, atgyweiriadau, digartrefedd a hawliau tai yng Nghymru. Mae Shelter Cymru hefyd yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer myfyrwyr, pobl LHDTC+, cymunedau Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ifanc, a'r rhai sydd angen gwasanaethau cynghori lleol ar gyfer tai a llety. |
Ymwybodol o LHDTC+ - Shelter Cymru
Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig - Shelter Cymru
|
| Shelter (Lloegr) | Elusen tai arbenigol sy'n darparu cyngor a chymorth ar rentu, cytundebau tenantiaeth, blaendaliadau, atgyweiriadau, cael eich bwrw allan o’ch cartref, digartrefedd a hawliau tai yn Lloegr. Mae Shelter hefyd yn cynnig offer ymarferol, cyngor tai brys a gwasanaethau cymorth lleol. | Hafan - Shelter Lloegr |