Eich Tenantiaeth

Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i broblemau yn neuaddau fy Mhrifysgol?

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â Thîm Llety'r Brifysgol drwy e-bostio accommodation@uwtsd.ac.uk Os na chaiff y mater ei ddatrys, gallwch gyflwyno cwyn o dan Weithdrefn Gwyno'r Brifysgol. Cysylltwch ag adran Gynghori’r UM am ragor o wybodaeth am hyn.

Beth os ydw i'n byw mewn neuaddau preswyl preifat?

Os ydych chi'n byw mewn neuaddau preswyl preifat – neu lety myfyrwyr pwrpasol – ac yn cael problemau, dylech chi godi eich pryderon gyda thîm y dderbynfa neu'r rheolwr. Os yw eich problem yn parhau heb ei datrys, dylai tîm y neuaddau roi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol. Os nad ydych chi'n siŵr beth yw eich camau nesaf, cysylltwch ag adran Gynghori’r UM am ragor o wybodaeth.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn profi camwahaniaethu neu aflonyddu gan landlord neu asiant?

Mae gan bawb hawl i gartref diogel a chyfforddus. Os yw'ch landlord yn eich bygwth, neu'n dod draw heb rybudd, neu'n ceisio eich gorfodi i adael eich cartref heb ddilyn y broses gywir, mae hyn yn anghyfreithlon ac yn cael ei ystyried yn aflonyddu.

Rhowch hyn mewn ysgrifen: Os yw'ch landlord yn eich aflonyddu, gallwch ysgrifennu neu anfon e-bost at y landlord neu'r asiantaeth gosod eiddo. Mae'n bwysig eich bod chi'n cadw’n ddiogel wrth lywio'r prosesau hyn, felly dylech chi bob amser fod â ffrind neu gynghorydd gyda chi pryd bynnag y bydd yn rhaid i chi ddelio â'r landlord yn bersonol.

Cadw'n ddiogel: Os ydych chi'n teimlo'n anniogel yn eich cartref, neu os yw'ch landlord yn dreisgar neu’n eich bygwth â thrais, ffoniwch 101 neu 999 os yw'n argyfwng. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd gan gynnwys dyddiadau, amseroedd, disgrifiadau o'r hyn sydd wedi digwydd, unrhyw ffotograffau o ddifrod ac unrhyw dystion eraill.

Gwneud Adroddiad: Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i'r cyngor lleol a/neu i Rhentu Doeth Cymru os ydych chi'n byw yng Nghymru. Gallwch hefyd gysylltu â'r Heddlu

Beth ddylwn i ei wneud os oes angen atgyweiriadau yn fy nghartref?

Os oes angen trwsio rhywbeth yn eich cartref, dylech roi gwybod amdano i'r landlord neu'r asiantaeth gosod eiddo cyn gynted â phosibl. Fel arfer, mae'n well gwneud hyn yn ysgrifenedig drwy e-bost neu lythyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi i chi gyfeirio ato rhag ofn y bydd unrhyw broblemau pellach yn ddiweddarach. Mae hefyd yn werth tynnu lluniau o unrhyw ddiffyg atgyweirio fel bod gennych chi hyn i gyfeirio ato hefyd. Os byddwch chi'n rhoi gwybod iddynt wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, dilynwch hynny bob amser â llythyr neu e-bost. Mae gan eich landlord gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud rhai atgyweiriadau, yn enwedig os ydynt yn effeithio ar iechyd a diogelwch. Os na chaiff gwaith trwsio ei wneud o fewn amser rhesymol, mae’n bosib y byddwch yn gallu cymryd camau gweithredu neu geisio cyngor. Nid oes gennych chi’r hawl i roi'r gorau i dalu rhent ac os byddwch yn atal rhent, gall y landlord gymryd camau i'ch troi allan.

A oes gan landlord ddyletswyddau iechyd a diogelwch?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid sicrhau bod offer nwy yn cael eu gwirio'n flynyddol gan beiriannydd sydd wedi'i gofrestru â Gas Safe. Mae'n ofynnol iddynt hefyd sicrhau bod gan bob teclyn trydanol a ddarperir y marc CE (yn ôl gweithgynhyrchwyr, mae hwn yn bodloni Cyfraith Safonau Diogelwch Ewropeaidd). Dylai eich Landlord ddarparu larwm dân ar gyfer pob lefel llawr a synhwyrydd carbon monocsid mewn unrhyw ystafell sy'n defnyddio tanwydd solet. Gallwch hefyd ofyn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub ymweld â'ch eiddo i gynnal Asesiad Risg Tân yn y Cartref.

A oes ffordd i raddio fy mhrofiad o denantiaeth?

Oes, mae Marks Out Of Tenancy yn pontio’r bwlch rhwng un rhentiwr â’r nesaf. Gallwch adolygu eich landlord, asiant gosod, eiddo rhent a chymdogaeth.

Ydw i'n gallu rhoi rhybudd i fy landlord fy mod i am adael, ac os ydw i, faint o amser?

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (gan gynnwys rhai tenantiaethau byrddaliadol sicr â landlordiaid preifat) yn cynnwys cymal terfynu, sy'n caniatáu i chi ddod â'r cytundeb i ben cyn diwedd y cyfnod penodol. Gwiriwch eich cytundeb i weld os yw'n cynnwys cymal fel hwn. Os nad yw eich cytundeb yn cynnwys cymal terfynu, yna dylai hefyd ddweud faint o rybudd sydd ei angen; os nad yw'n cynnwys cymal terfynu, yna ni allwch ddod â'r denantiaeth i ben yn gynnar oni bai bod y landlord yn cytuno.

Ydw i'n gallu cael rhywun arall i symud i mewn?

Gall hyn fod yn bosib os nad oes gennych chi unrhyw ddewis ond gadael yn gynnar, a'ch bod am osgoi talu rhent ar fwy nag un cartref. Serch hynny, rhaid i chi gael y landlord i gytuno i'r unigolyn hwnnw symud i mewn i'r eiddo. Mae'n bosib y bydd y landlord am gael geirda ar eu cyfer nhw. Dylai'r landlord roi cytundeb tenantiaeth newydd i'r unigolyn yma - fel arall byddwch chi'n dal i fod yn gyfreithiol gyfrifol am y denantiaeth.

Beth os yw fy landlord yn cytuno fy mod i'n gallu gadael?

Mae'n bosib dod allan o'r cytundeb ar unrhyw amser os gallwch chi â'r landlord gytuno ar hynny. Gelwir hyn yn 'ildio'. I fod yn ddilys, rhaid i'r naill ochr a'r llall gytuno, ac mae'n well os yw'r cytundeb yn cael ei wneud mewn ysgrifen, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddryswch yn nes ymlaen. Os oes gennych chi denantiaeth ar y cyd, rhaid i bob un o'r tenantiaid ar y cyd a'r landlord gytuno i'r ildio

Beth sy'n digwydd pan fydd fy nghytundeb yn dod i ben?

Os yw eich cytundeb am gyfnod penodol (e.e. chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, ond rhaid i chi sicrhau nad ydych chi'n aros ddiwrnod yn fwy, neu byddwch yn dod yn denant cyfnodol yn awtomatig, a bydd rhaid i chi roi rhybudd dilys. Mae cyfathrebu da'n helpu i bethau fynd yn hwylus, felly er nad oes rhaid i chi wneud hynny, mae'n dal i fod yn syniad da rhoi gwybod i'r landlord pan fyddwch chi'n symud allan.

P'un a ydych wedi dod i ddiwedd y contract neu'n gadael yn gynnar, mae yna rai pethau y dylech chi eu gwneud cyn i chi symud allan.

  • Darllennwch y mesuryddion: Trydan a Nwy. Rhowch wybod i’r darparwyr eich bod am gau’r cyfrifon a thalu’r bil terfynol.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich rhent i gyd wedi ei dalu: Gall hyn gynnwys amser nad ydych chi yno, ond mae’n ddyletswydd arnoch i gyflawni eich cytundeb.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr eiddo’n LÂN: Mae hyn bob amser yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl, felly dylech ganiatáu o leiaf dau ddiwrnod.