Cyn Symud i Mewn

Beth ddylwn i ei ystyried cyn penderfynu gyda phwy i fyw?

Cyn i chi fynd ati i lofnodi cytundeb tenantiaeth, mae'n syniad da penderfynu beth yw eich blaenoriaethau, eich lleoliad dewisol a'r gyllideb y mae'n rhaid i chi weithio o fewn iddi. Os ydych chi’n mynd i fod yn byw gyda ffrindiau, dylech hefyd feddwl am ffordd o fyw eich cyd-letywyr, ac a yw hyn yn mynd i fod yn addas i chi; cofiwch y byddwch yn byw gyda'r bobl hyn am bron i flwyddyn, felly dewiswch yn ddoeth. Mynnwch drafodaeth agored am eich blaenoriaethau a'r hyn yr ydych yn fodlon cyfaddawdu arno. Pwy sy'n hoffi cael y gwres ymlaen ar lefel uchel a phwy fyddai'n well ganddynt wisgo siwmper? Pwy sy'n hoffi mynd allan a phwy sy'n well ganddynt aros i mewn? Efallai y byddwch chi'n dewis byw gyda ffrindiau o'ch cwrs neu gymdeithas, neu bobl roeddech chi'n byw gyda nhw yn y flwyddyn gyntaf.

Beth ddylwn i feddwl amdano wrth edrych ar le?

Rydyn ni wedi creu teclyn ar-lein, hawdd ei ddefnyddio i'w gwneud hi'n haws i chi gofnodi gwybodaeth bwysig pan fyddwch chi’n mynd i weld tai a fflatiau.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu gyda phwy y byddwch yn byw, rydym yn argymell gwneud rhywfaint o ymchwil i brisiau rhent cyfartalog a phwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o fyw mewn gwahanol rannau o'r ddinas neu'r dref yr ydych ynddi. Cyn mynd i edrych ar dŷ neu flat, lluniwch rai cwestiynau y byddech chi am eu gofyn i'r landlord/asiant gosod tai. Er enghraifft, a yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu, a yw biliau cyfleustodau wedi'u cynnwys, beth yw'r blaendal cadw, a oes arwyddion o leithder/llwydni, pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ardd? Gwiriwch gyda’r landlord/asiant beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le yn yr eiddo. Oes yna rif cysylltu mewn argyfwng, neu a oes rhaid aros tan oriau swyddfa?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld yr eiddo ac yn sgwrsio â'r tenantiaid presennol am eu profiad o fyw yno. Rydym hefyd yn eich cynghori i fod yn effro i sgamiau rhentu. Gall myfyrwyr gael eu targedu gan dwyllwyr sy'n hysbysebu eiddo nad yw'n bodoli neu sydd eisoes wedi'i rentu.

Beth ddylwn i ei wybod cyn llofnodi contract?

O fis Rhagfyr 2022, ar gyfer y rhan fwyaf o lety rhentu yng Nghymru, byddwch yn llofnodi contract meddiannaeth safonol. Gellir cael mwy o wybodaeth am lofnodi contract yma. Yna mae angen i chi ddarllen y contract yn ofalus; unwaith y byddwch chi wedi cytuno i fyw yn yr eiddo, rydych chi i bob diben yn gaeth i’r telerau hynny am gyfnod y cytundeb. Gwiriwch fod yr holl enwau cywir yn bresennol ar y contract, bod yr holl symiau (rhent, blaendaliadau) fel y cytunwyd arnynt, pryd y gallwch symud i mewn a phwy sy’n rheoli’r eiddo – yr asiant gosod eiddo neu’r landlord. Fel arfer gofynnir i chi ddarparu gwarantwr. Yn aml, rhiant neu aelod o'r teulu yw’r person yma, sy'n gwarantu talu eich rhent os na wnewch chi hynny. Bydd yn rhaid iddynt lofnodi cytundeb gwarantwr, ac efallai y byddant am fynnu cyngor eu hunain cyn llofnodi. Yn gyffredinol, bydd landlordiaid am i chi ddarparu gwarantwr sy'n byw yn y DU, gan y bydd yn haws iddynt gymryd camau cyfreithiol os oes unrhyw rent heb ei dalu.

A fydd angen blaendal arnaf?

Bydd angen blaendal ar bron bob contract. Yng Nghymru, rhaid diogelu blaendaliadau o fewn Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau. Ar ddechrau cytundeb tenantiaeth newydd, talwch eich blaendal i'ch landlord neu asiant fel arfer. O fewn 14 diwrnod, mae gofyn i'r landlord neu asiant roi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut caiff eich blaendal ei warchod, gan gynnwys:

  • Manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaeth
  • Manylion cyswllt y landlord neu'r asiant
  • Sut i wneud cais am ryddhau'r blaendal
  • Gwybodaeth sy'n esbonio diben y blaendal
  • Beth i'w wneud os oes anghydfod ynglŷn â'r blaendal

Mae’n ddyletswydd arnoch i ddychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag yr oedd pan y gosodwyd y lle i chi, a chaniatáu ar gyfer traul teg. Mae’n syniad da sicrhau pan fyddwch chi’n arwyddo eich cytundeb, eich bod yn:

  • Tynnu lluniau o’r ystafelloedd ac unrhyw ddifrod neu draul, cyn i chi symud i mewn.
  • Cadw rhestr fanwl o’r cynnwys (dodrefn a gosodiadau).
  • Gwirio dan ba amgylchiadau y gallai eich landlord neu asiant ddal eich blaendal yn ôl.

Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy landlord neu asiant wedi diogelu fy mlaendal?

Gallwch wneud cais i'ch llys sirol lleol; gall y llys wedyn orchymyn eich landlord neu asiant i naill ai ad-dalu eich blaendal i chi, neu ei osod mewn cynllun gwarchod blaendaliadau. www.gov.uk/tenancy-deposit-protection