Arian, Biliau, a Byw

A allaf gael gostyngiad yn fy nhreth cyngor?

Gall myfyrwyr llawn-amser cofrestredig wneud cais am eithriad rhag talu treth cyngor. I gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser, rhaid i chi fod ar gwrs sy'n para o leiaf blwyddyn, sy'n gofyn am dros 21 awr o astudio bob wythnos. Fel rheol bydd angen i fyfyrwyr rhan-amser dalu, ond gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad ar sail ffactorau eraill. I hawlio eithriad, gallwch ofyn am y ffurflen ar MyTSD.

Mynd yn syth i astudiaeth ôl-raddedig? Sylwch y bydd yn rhaid i chi dalu treth yn ystod gwyliau'r haf rhwng blynyddoedd academaidd. 

Os ydych chi’n byw mewn tŷ a rennir gyda myfyrwyr llawn-amser a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, byddwch yn cael bil treth y cyngor trwy'r drws bob mis. Fodd bynnag, dim ond y tenantiaid hynny nad ydynt yn fyfyrwyr fydd yn gorfod ei dalu - mae myfyrwyr llawn-amser yn dal i fod wedi'u heithrio.

A oes angen trwydded deledu arnaf?

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn gwylio neu'n recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu neu ar wasanaeth teledu ar-lein (gan gynnwys eich gliniadur, llechen neu ffôn clyfar) fel All4, SkyGo a YouTube, neu'n lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar alw ar iPlayer, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi fod â thrwydded deledu neu mae’n bosib y cewch ddirwy.

Faint o arian ddylwn i ei roi o'r neilltu ar gyfer biliau cyfleustodau?

Mae biliau cyfleustodau fel nwy a thrydan yn cynrychioli gwariant sylweddol i fyfyrwyr. Gallwch drafod newid eich cyflenwr gyda'ch asiant gosod tai neu landlord. Bydd defnyddio gwefan cymharu prisiau fel Compare The Market yn eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau. Gallwch leihau eich defnydd o drydan trwy ddiffodd unrhyw offer electroneg a chyfarpar arall wrth y soced yn y wal pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn hytrach na'u gadael yn y modd segur, a newid i fylbiau golau LED sy'n arbed ynni. 

Gallech hefyd ofyn am request a smart meter gan eich cyflenwr ynni i'ch helpu i gadw golwg ar eich defnydd o drydan a darparu darlleniadau mesurydd cywir. Mae llawer o gyflenwyr yn gosod y rhain am ddim. Ac efallai fod hyn yn swnio’n amlwg, ond gwisgwch ddillad cynhesach o gwmpas y tŷ lle troi’r gwres canolog ymlaen yn ddiangen, a defnyddiwch y ddyfais amseru ar eich gwres canolog, yn hytrach na chynhesu tŷ gwag trwy’r dydd tra byddwch allan.

Mae biliau dŵr ym mhob rhan o'r wlad yn cael eu hanfon allan gan un cyflenwr penodol. Os ydych ar dariff safonol, byddwch yn cael bil am swm penodol yn dibynnu ar werth y tŷ. Gallwch dalu'r bil blynyddol cyfan ymlaen llaw neu trwy randaliadau gydol y flwyddyn. Os yw eich tŷ ar fesurydd dŵr, dim ond am y dŵr rydych chi wedi'i ddefnyddio y byddwch chi'n talu. Gallwch arbed dŵr trwy ddiffodd y tap pan fyddwch yn brwsio eich dannedd, a chyfyngu cawodydd i bum munud - prynwch amserydd cawod sy'n dal dŵr ac anogwch bawb yn eich tŷ i ymuno â'r fenter. Ac yn olaf, ceisiwch ddefnyddio eich peiriant golchi dillad pan fydd gennych chi lwyth llawn yn unig fel nad ydych yn gwastraffu dŵr; trefnwch ddiwrnod golchi gyda'ch cyd-letywyr.

Bydd angen i chi dalu am y llinell ffôn a band-eang.Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio llinell-wifren i wneud galwadau ffôn mwyach, felly mae’n bosib mai dim ond ar gyfer eich cysylltiad rhyngrwyd y bydd ei angen arnoch chi. Ystyriwch faint o ddata y bydd ei angen arnoch, gan ddibynnu ar nifer y preswylwyr a'ch gweithgaredd. Efallai y byddwch am chwilio am drefniant diderfyn er tawelwch meddwl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried costau sefydlu, hyd eich contract a'r cysylltedd yn eich ardal cyn ymrwymo i unrhyw beth.

Unwaith y bydd eich holl filiau wedi'u sefydlu, bydd angen i chi weithio allan sut rydych chi'n mynd i dalu. Bydd angen i chi gael sgwrs gyda'ch cydletywyr am y biliau. Pwy fydd yng ngofal y trefniadau? Pryd fydd y lletywyr yn talu? Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn hwyr neu'n methu â thalu eu cyfran? Mae’n bosib y byddwch am ystyried gwasanaeth rhannu biliau neu becyn bargen i fyfyrwyr. Mae'r cwmnïau hyn yn pecynnu biliau cyfleustodau i mewn i un taliad misol, ac yna’n rhannu'r cyfanswm yn gyfartal i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu fforddio'ch biliau sylfaenol bob mis. Rydym yn awgrymu eich bod yn sefydlu bancio ar-lein, gan ei bod yn llawer haws cadw golwg ar bryd mae'ch biliau'n mynd allan er mwyn rhoi tawelwch meddwl i chi. Er mwyn sicrhau nad ydych yn gorwario, efallai y byddwch am greu cyfrif ar wahân ar gyfer eich taliadau misol. Os ydych chi mewn trafferthion ariannol, mae bwrsariaethau ar gael trwy'r brifysgol i'ch helpu chi

Ble gallaf gael gwybod pa bryd fydd ein sbwriel/ailgylchu yn cael ei gasglu?

Gallwch gael gwybod pryd fydd eich biniau'n cael eu casglu ar-lein trwy fynd i wefan eich cyngor lleol. Dylech fod yn gallu nodi eich côd post, ac yna darganfod y diwrnod y caiff eich biniau eu casglu ac i gael mynediad at y calendr ar gyfer eich ardal.

Rwy'n cael trafferth setlo i mewn. Ai dim ond fi'n teimlo'n unig ac yn hiraethus?

I rai pobl bydd y profiad o symud i’r Brifysgol yn teimlo'n esmwyth ac yn syml, ond mae’n cymryd amser i lawer setlo i mewn. Rhowch amser i chi'ch hun addasu i ffordd newydd o fyw, a chofiwch y bydd pobl eraill yn cael teimladau tebyg i chi. Os ydych chi'n teimlo’n hiraethus, gall fod yn demtasiwn i chi gau eich hun i ffwrdd, ond gall hyn beri i chi deimlo'n fwy unig. Ceisiwch beidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun; tra bod y rhan fwyaf o bobl yn elwa o rywfaint o ryngweithio cymdeithasol, mae'n bwysig dod o hyd i gydbwysedd sy'n gweithio'n dda i chi fel unigolyn. Mae gadael eich drws ar agor tra byddwch yn eich ystafell yn un ffordd o greu cyfle i sgwrs gychwyn.

Efallai y gwelwch fod gennych chi fwy yn gyffredin â phobl ar eich cwrs neu fod yn well gennych chi gymdeithasu â phobl eraill y tu allan i'ch fflat. Bydd ymuno â chlwb neu gymdeithas yn eich cyflwyno i bobl sy'n rhannu’r un diddordebau â chi; ewch i'n tudalen Cyfleoedd am ragor o wybodaeth. 

Anogir myfyrwyr hefyd i geisio cymorth llesiant os ydych chi'n chwilio am le diogel i sgwrsio am sut rydych chi'n teimlo.