Mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfarfod o Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol ac Uwch Dîm Rheoli’r Undeb. Mae’r Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion Sabothol yn cymeradwyo Grwpiau Myfyrwyr newydd ac mae ganddyn nhw gyfle i gadarnhau dulliau o ymdrin â materion sydd o natur wleidyddol a gweithredol.
Yma fe welwch y diweddaraf o’r Pwyllgor Gwaith: dyma'r cofnodion. Mae rhai eitemau'n gyfrinachol i unigolion; er mwyn diogelu preifatrwydd yr unigolion hynny nid ydym yn rhannu gwybodaeth amdanynt. Gall fod yna adegau hefyd lle bydd sgyrsiau cyfrinachol yn ymwneud â gweithgaredd masnachol; unwaith eto ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr. Pan fyddwn yn aros i'r cofnodion gael eu cymeradwyo erbyn y cyfarfod nesaf, bydd diweddariad yn cael ei ddosbarthu ynghylch yr hyn a drafodwyd a'r camau a gymerwyd.