Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn ennill gwobr genedlaethol fawred

Dydd Mercher 05-07-2017 - 17:22
Su win resized 1

Heno, yn noson Wobrwyo Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a fynychwyd gan Undebau Myfyrwyr o bob rhan o'r DU, enillodd UMyDDS y Wobr Addysg am ein gwaith ar y costau ychwanegol sy'n wynebu myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Roedd UCM yn cydnabod eu hymchwil fel “enghraifft eithriadol o undebau myfyrwyr ar eu gorau” ac mae eisoes wedi bod o fudd i fyfyrwyr PCyDDS, gan gynnwys creu bwrsariaethau newydd i fyfyrwyr yn 2017/18.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad yma

Croesawodd Llywydd Undeb Myfyrwyr y Grŵp yn 2016/17, Dan Rowbotham, y wobr gan ddweud "Mae Undeb y Myfyrwyr yn falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth am ein gwaith ym maes cynrychiolaeth myfyrwyr. Credwn mai rôl graidd Undeb Myfyrwyr yw sicrhau bod profiad academaidd myfyrwyr o hyd yn gwella, ac rydyn ni'n falch y bydd ein gwaith ar gostau astudio'n cael effaith bositif ar ein myfyrwyr. Mae hwn wedi bod yn brosiect pwysig i'n tîm dros y flwyddyn ddiwethaf, a thra'i bod yn wych ennill gwobrau, gwir arwydd ein llwyddiant yw'r nifer o fyfyrwyr fydd yn elwa o'r gwaith hwn".

 

Derbyniodd Undeb y Myfyrwyr wobr gyffelyb yng ngwobrau UCM Cymru ym mis Mawrth, a dyma'r tro cyntaf i'r Undeb ennill gwobr ar lefel y DU am ei waith. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio ar ein prosiect newydd, ar y thema 'trefniant cyrsiau'.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...