Fe wnaethon ni ennill gwobr am y Brecwast Mawr, Llais Mawr!

Dydd Mawrth 09-06-2026 - 10:03

"Roedd gweld myfyrwyr yn dod at ei gilydd ar gyfer ymgyrch y Brecwast Mawr, Llais Mawr yn brofiad a roddodd gryn foddhad i mi. Roedd yn anhygoel gweld faint roedd brecwast am ddim cyn mynd i’r dosbarth yn ei olygu i bobl, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw. Dywedodd cynifer o fyfyrwyr wrthym fod hyn wedi gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn fwy cysylltiedig â chymuned y brifysgol, ac roedd clywed hynny’n gwneud i'r holl waith y tu ôl i'r ymgyrch deimlo'n werth chweil."

- Rainna, Llywydd Caerdydd ac Abertawe  2025/26

Newyddion am Wobr! Ydych chi’n cofio’n hymgyrch “Brecwast Mawr, Llais Mawr” a gynhaliwyd gennym yn gynharach yn y flwyddyn?" Wel, mae wedi llwyddo i ennill Gwobr Ymgyrch Myfyrwyr Ragorol 2026 gan UCM Cymru.

eth Jen a Steve i'r seremoni wobrwyo a chasglu'r wobr ar ran Undeb y Myfyrwyr. Rydyn ni mor falch o'r prosiect hwn. Ynghyd â'r 747 brecwast am ddim a ddarparwyd, daeth y llwyddiant go iawn yn sgil mynd allan i'r campws a chael sgyrsiau gwirioneddol gyda myfyrwyr mewn awyrgylch hamddenol - gan greu lle iddyn nhw rannu eu mewnwelediadau a'u meddyliau.

Ni yw'r bobl mewn porffor, a does dim byd rydyn ni'n ei garu fwy na gwisgo ein porffor a mynd allan i'r campws. Ac o wybod bod ein myfyrwyr yn brysur, fe wnaethon ni gadw'r cyfan yn hygyrch trwy fynd allan ar yr adegau ac i'r lleoedd a oedd yn gweithio orau iddyn nhw.

"Rwy'n falch iawn bod Brecwast Mawr, Llais Mawr wedi cael ei gydnabod gan UCM, ond y mesur go iawn oedd sut y llwyddodd i gyrraedd y myfyrwyr ar y diwrnod, a sut y daeth ein tîm at ei gilydd i gyflawni rhywbeth â gwir effaith. Byddwn yn adeiladu ar hyn. Mae cynrychioli a chefnogi myfyrwyr yn fwy na dim ond yr hyn a wnawn; dyna pam rydym yn bodoli, a thrwy greu cyfleoedd go iawn ar gyfer cysylltu, mae hynny'n dod yn fyw".

- Simon, Rheolwr Llais Myfyrwyr

Hoffem orffen trwy ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth draw am sgwrs, y rhai a fachodd frecwast, neu a rannodd adborth â ni. A llongyfarchiadau i'r tîm am helpu i wneud yr ymgyrch hon yn gymaint o lwyddiant.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...