Rydym wrth ein bodd yn rhannu newyddion cynaladwyedd cyffrous – mae gwaith caled ein Haelodau, Swyddogion a Staff wedi cael ei gydnabod yn swyddogol! Fe’n dyfarnwyd yn "Dda Iawn" ac fe’n hystyriwyd i fod yr undeb oedd "Wedi Gwella Fwyaf" yng Ngwobrau Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd 2023-24 gan SOS-UK (Myfyrwyr yn Trefnu er Cynaladwyedd).
Mae SOS-UK yn elusen a arweinir gan fyfyrwyr sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, gan weithio gyda myfyrwyr i fod ar flaen y gad o ran newid amgylcheddol cadarnhaol. Roeddem yn un o 32 o Undebau Myfyrwyr i gymryd rhan yng nghynllun Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd, sy'n helpu i addysgu Staff a Swyddogion UM, yn ogystal â myfyrwyr, am gynaladwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol ac yn ein grymuso i weithredu.
Rydym mor falch o'n Haelodau, Swyddogion, a Chymdeithasau - eu gwaith caled nhw sydd cael cydnabyddiaeth. Tynnodd SOS-UK sylw at ein hymgyrch dros urddas mislif, sy’n darparu amrywiaeth o gynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen. Llongyfarchiadau arbennig i Gymdeithas Amgylcheddol Abertawe am drefnu glanhau traethau, sesiynau codi sbwriel, digwyddiad diffodd popeth ar y campws, ac am ddangos ffilmiau dogfen amgylcheddol gydol y flwyddyn hefyd.
Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth, Géraldine Smits, gyflwynodd ein cyflawniadau i Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd ac meddai:
“Mae wedi bod yn daith a phrofiad gwerth chweil i ddysgu am yr holl ymdrechion cynaladwyedd a wnaed yn UM PCyDDS eleni! Mae’r gwaith y mae SOS-UK yn ei wneud gyda’u cynllun Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd yn ffordd wych o gofnodi’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni, a hefyd o gael gweld pa mor effeithiol fu ein hymdrechion. Mae ein haelodau wedi bod yn ymroddedig a diffuant, o sesiynau codi sbwriel i gynlluniau plannu i ymgyrchoedd diffodd goleuadau a mwy. Roedd cynnal safon 'Da Iawn' a hyd yn oed derbyn cydnabyddiaeth am fod 'Wedi Gwella Fwyaf' yn fwy na'r disgwyl, ond yn brofiad hyfryd. Diolch yn fawr iawn am waith caled parhaus fy nghydweithwyr yn UM PCyDDS, gan eu bod yn ei gwneud hi’n hawdd bod â chymaint i frolio amdano o ran cynaladwyedd!”