Os oes rhywun yn mynd i'ch cynrychioli chi - oni fyddech chi eisiau dweud eich dweud o ran pwy yw'r person hwnnw? Gall pob myfyriwr bleidleisio yn ein hetholiadau myfyrwyr. A thrwy benderfynu pleidleisio, rydych chi'n helpu i ddewis y bobl sy'n eich cynrychioli chi - a'ch buddiannau - i'r UM, y brifysgol, UCM, a hyd yn oed y Llywodraeth.
Mae ein hetholiadau’n defnyddio'r system y bleidlais sengl drosglwyddadwy - sy'n eich galluogi i raddio ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis. Gallwch raddio cymaint (neu gyn lleied) o ymgeiswyr ag y dymunwch - neu hyd yn oed bleidleisio i ailagor enwebiadau, sy'n ailgychwyn y broses etholiadol.
I gael ei ethol, rhaid i ymgeisydd gael dros 50% o'r pleidleisiau - cyfeirir at hwn fel y cwota. Cynhelir y pleidleisio mewn rowndiau; os na fydd unrhyw un yn cyrraedd y cwota yn y rownd gyntaf, caiff yr ymgeisydd sydd wedi derbyn y nifer lleiaf o bleidleisiau ei fwrw allan, a rhennir eu pleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill ar sail dewis y pleidleiswyr – ailadroddir hyn nes bydd enillydd yn cael ei ddatgan.
Ar ddiwrnod cyntaf y pleidleisio, byddwn yn anfon e-bost at bawb sy'n cynnwys dolen bleidleisio unigryw - peidiwch â'i rhannu ag unrhyw un arall! Gallwch hefyd bleidleisio trwy fynd i'r llwyfan pleidleisio ar-lein a mewngofnodi gyda'ch ID myfyriwr.
Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost pleidleisio neu os na allwch chi fewngofnodi i'r wefan, gyrrwch e-bost i elections@uwtsd.ac.uk.
Mae ein hetholiadau'n defnyddio'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Rydych chi'n rhestru ymgeiswyr yn ôl eich dewis - gallwch raddio cymaint (neu gyn lleied) o ymgeiswyr ag y dymunwch ar gyfer unrhyw rôl.
Ac os nad oes neb yn deilwng yn eich barn chi, gallwch chi ddifetha eich pleidlais neu bleidleisio i ail-agor enwebiadau (RON).
Er mwyn cael ei ethol, rhaid i ymgeisydd gyrraedd y cwota. Caiff hyn ei gyfrifo trwy gymryd cyfanswm y pleidleisiau ac yna rhannu’r ffigwr hwn â chyfanswm nifer y seddi plws un, ac ychwanegu un.
((Cyfanswm Pleidleisiau / Cyfanswm y Seddi + 1) + 1)
Cynhelir y bleidlais mewn rowndiau. Os na fydd neb yn cyrraedd y cwota yn y rownd gyntaf, caiff yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau ei fwrw allan, a rhennir eu pleidleisiau nhw rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill ar sail dewis y pleidleiswyr.
Ac mae hyn yn cael ei ailadrodd nes bod enillydd yn cael ei ddatgan.
Ar ddiwrnod cyntaf y pleidleisio, byddwn yn anfon e-bost at bawb gyda dolen bleidleisio unigryw - peidiwch â'i rhannu ag unrhyw un arall!
Gallwch hefyd bleidleisio trwy fynd i'r llwyfan pleidleisio ar-lein yn uwtsdunion.co.uk/vote a mewngofnodi gyda'ch ID myfyriwr.
E-bostiwch ni yn elections@uwtsd.ac.uk os nad ydych wedi derbyn eich dolen neu os ydych yn cael problemau technegol.
Mwynhewch y Pleidleisio.