Credwn fod myfyrwyr yn rym er daioni - mae gan eich syniadau, eich gweithredoedd a’ch angerdd y potensial i newid sut mae pethau’n cael eu gwneud yn PCyDDS a thu hwnt.
Myfyrwyr wrth galon yr hyn a wnawn 💜 - rydym yn falch o fod yn elusen sy'n cael ei harwain gan fyfyrwyr. Mae popeth a wnawn er lles gorau ein myfyrwyr ac rydym yn eiriol dros eu hawliau. Mae tîm o Lywyddion a Swyddogion a etholwyd gan fyfyrwyr yn arwain ein gwaith.
Ydych chi am fod yn un o'n harweinwyr? - Ein Hetholiadau Myfyrwyr yw sut mae myfyrwyr yn cael eu hethol i rolau. Edrychwch ar ein rhestr o swyddi i ddod o hyd i rôl y byddwch chi'n ei charu a chliciwch ar y botwm enwebu. P’un a ydych chi wedi enwebu ai peidio – mae holl fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cael pleidleisio – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw eich pleidlais yn ystod yr wythnos bleidleisio i helpu â phenderfynu pwy yw’r bobl a fydd yn eich cynrychioli.
Mae angen e-bost myfyriwr - os ydych chi'n barod i enwebu, bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch e-bost myfyriwr!
10:00, Dydd Llun 13 Hydref - 23:59, Dydd Gwener 24 Hydref
10:00, Dydd Llun 10 Tachwedd - 15:00, Dydd Iau 13 Tachwedd
13:00, Dydd Gwener 14 Tachwedd
Mae Swyddogion Rhan-amser yn cynrychioli cymuned benodol o fyfyrwyr a meysydd diddordeb; maent hefyd yn mynychu ein Cynghorau Campws. Rolau gwirfoddol, rhan-amser yw’r rhain - yn ddelfrydol ar gyfer eu cyflawni ochr-yn-ochr â'ch astudiaethau. Mae yna 5 rôl i bob campws - pob un yn unigryw i'r campws hwnnw.
Mae'r rhain yn rolau gwirfoddol, sy'n agored i bob myfyriwr. Ydych chi eisiau gwybod mwy am y rôl hon? Ewch i'n tudalen we egluro rolau
Os ydych am fod yn ymgeisydd, darllenwch y canlynol www.uwtsdunion.co.uk/cy/voice/elections/regulations.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen cymorth, anfonwch e-bost at elections@uwstd.ac.uk.
Rydym yn Falch o gael ein Harwain gan Fyfyrwyr 💜