Ein rolau

Rydym yn sefydliad democrataidd lle gall myfyrwyr gamu i swyddi arweinyddiaeth fel swyddogion, llywyddion, ymddiriedolwyr, neu gadeirydd. Mae pob rôl yn cynnig cyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd myfyrwyr.

Mae rhai rolau'n dod â chyflog, tra bod eraill yn wirfoddol, ac mae'r ymrwymiad o ran amser yn amrywio. Gallwch ymgymryd â rôl yn rhan-amser, ochr-yn-ochr â'ch astudiaethau, neu'n llawn-amser trwy gymryd blwyddyn i ffwrdd o’ch astudiaethau, neu ddechrau ar ôl i chi raddio.

Beth am fwrw golwg ar ein cyfleoedd cyfredol isod a dod o hyd i'r rôl sy'n iawn i chi?


Llywyddion yr Undeb

Llawn-Amser, Cyflogedig

Ein Llywyddion (Swyddogion Sabothol) sy’n arwain yr Undeb o ddydd i ddydd. Mae gennym bedair swydd - 1 x Llywydd y Grŵp sy'n agored i bob myfyriwr, a 3 x Llywydd Campws sy’n agored i fyfyrwyr Abertawe, Llundain, Birmingham, Caerdydd, a Chaerfyrddin. Dylech sefyll ar gyfer y swyddi hyn os oes gennych chi syniadau a brwdfrydedd, a’ch bod yn barod i ymgymryd â chynrychiolaeth myfyrwyr fel swydd lawn-amser am flwyddyn.

Mwy am Llywyddion yr Undeb
  • Llywydd y Grŵp
  • Llywydd Birmingham a Llundain
  • Llywydd Caerdydd ac Abertawe
  • Llywydd Caerfyddin

Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Ystyrir y Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr gan y Brifysgol ac maent yn cyflwyno syniadau, problemau a barn myfyrwyr ar amrywiaeth o bynciau trwy gymryd rhan mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau o fewn y Brifysgol.

Y Swyddogion Sabothol sy’n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnyn nhw, a gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw pwrpas eu Hundeb, a sut y gallant gysylltu. Mae’r Swyddogion Sabothol yn gwasanaethu'n awtomatig fel ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeiswyr ddarllen yr adran Myfyrwyr Ymddiriedolwyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys.

Mae’r canlynol ymhlith cyfrifoldebau pob Swyddog Sabothol...

  • Gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo gwerthoedd a chennad Undeb y Myfyrwyr, ac sydd ddim yn dwyn anfri ar yr Undeb.
  • Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
  • Cyfranogi'n llawn yng nghylchred pwyllgorau'r Brifysgol trwy fynychu cyfarfodydd pwyllgorau, grwpiau a byrddau dynodedig, yn ogystal â chynrychioli buddiannau myfyrwyr UMyDDS.
  • Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu'n unol â'r cyfansoddiad a'i is-ddeddfau.
  • Gweithredu'n dryloyw, darparu myfyrwyr â'r diweddaraf trwy erthyglau, blogiau a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir iddynt fod yn briodol. 
  • Deall sut mae materion polisi Addysg Uwch yn effeithio ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol, rhannu gwybodaeth a chyd-drefnu myfyrwyr i weithredu er eu budd eu hunain.
  • Annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy'n cryfhau llais y myfyrwyr, yn gwella eu profiad yn y Brifysgol, ac sy’n datblygu eu sgiliau a/neu'n creu cymuned fywiog a deniadol.
  • Gweithredu fel 'Ymddiriedolwr Sabothol' ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMyDDS yn unol ag Erthyglau 24-50 y Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
  • Hyrwyddo polisïau craidd yr Undeb, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
  • Gwella cyfranogiad myfyrwyr ym mhob agwedd o brosesau, strwythurau a gweithgareddau'r Undeb.
  • Gweithio fel tîm i gryfhau a hyrwyddo amcanion Undeb y Myfyrwyr

Mae cyfrifoldebau Llywyddion y Campysau'n cynnwys...

  • Goruchwylio'r ddarpariaeth o weithgareddau a chyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr a datblygu'r ystod o weithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael ar bob campws.
  • Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
  • Cynorthwyo â datblygiad system gynrychiolaeth y myfyrwyr a darparu cyngor, arweiniad a chymorth i Gynrychiolwyr Cwrs a Chyfadran fel bo angen.
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr ynghylch materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.
  • Hyrwyddo a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol.

Mae’r canlynol ymhlith cyfrifoldebau Llywydd y Grŵp...

  • Cynrychioli myfyrwyr ar gampysau Llundain, Birmingham a Chaerdydd a datblygu system gynrychiolaeth ar y campysau hynny sy'n gweithio ar gyfer anghenion y myfyrwyr hynny.
  • Cynnal cysylltiad â chynrychiolwyr yng ngholegau partner UMyDDS a, lle nad oes cynrychiolwyr, gweithio gyda swyddogion cydlynu myfyrwyr i sicrhau y caiff myfyrwyr ar gyrsiau PCyDDS eu cynrychioli'n effeithiol.
  • Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr yng Nghyngor y Brifysgol a Senedd y Brifysgol.
  • Cadeirio'r Pwyllgor Gwaith a rhoi cymorth i Lywyddion y Campysau yn eu gwaith.
  • Mynychu cyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn ogystal ag adrodd yn ôl iddynt.
  • Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn hybu cydlyniad cymunedol.
  • Mynychu cyfarfodydd Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws perthnasol, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt.

Swyddog Rhan-amser

Rhan-amser, Gwirfoddol

Mae'r rôlau hyn yn cynrychioli naill ai demograffeg benodol o fyfyriwr neu faes diddordeb. Mae yna bum rôl ar bob un o’n campysau – mae hynny’n gyfanswm o bump-ar-hugain (5 ym Mirmingham, 5 yng Nghaerdydd... a.y.b.) Mae gan bob campws ei dîm unigryw ei hun o swyddogion.

Mwy am Swyddog Rhan-amser

Dylech sefyll i fod yn swyddog rhan amser os ydych yn frwd am un o'r rolau ac os oes gennych lawer o syniadau ynglŷn â sut gallwch ennyn diddordeb myfyrwyr, ymgyrchu dros newid neu wella bywyd myfyrwyr

Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, sy'n bodoli i sicrhau bod prosesau llunio penderfyniadau’r UM yn cynrychioli ein myfyrwyr ac i helpu i greu diwylliant bywiog a gweithredol ar y campws. Mae gan bob un o’n campysau yn Abertawe, Caerdydd, Birmingham, Llundain a Chaerfyrddin Gyngor Campws sy’n cynnwys y Swyddogion Rhan-amser sy’n perthyn i’r campws hwnnw. Mae Cyngor y Campws yn cwrdd unwaith y mis yn ystod y tymor i drafod a gweithredu syniadau myfyrwyr. Mae pob un o’r Cynghorau Campws yn cynnig y rolau canlynol ar gyfer etholiad.

Birmingham: 

  • Swyddog Amlddiwyllianno
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Swyddog Rhyddhad y Menywod
  • Swyddog Gwirfoddoli a RAG

Caerdydd:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog LHDT+
  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Caerfyrddin:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Hunaniaeth Ryweddol
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau

Llundain:

  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
  • Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau
  • Swyddog LHDT+

Abertawe:

  • Swyddog yr Iaith Gynraeg
  • Swyddog Llesiant
  • Swyddog Amlddiwylliannol
  • Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd
  • Swyddog Rhyddhad y Menywod

Beth mae hyn yn ei olygu?

Swyddog Moeseg a’r Amgylchedd : Mae’r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo materion moesegol ac amgylcheddol, ochr-yn-ochr â chynaliadwyedd, yn ogystal ag ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgarwch cynaliadwy, ac ymgyrchu dros Brifysgol a chymuned ehangach fwy moesegol, ecogyfeillgar a chynaliadwy.   

Swyddog Hunaniaeth Ryweddol : Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr Traws, hyrwyddo materion Traws a chynnig cymorth i fyfyrwyr Traws. Mae'r rôl hon hefyd yn bodoli i gynrychioli myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel dynion traws, menywod traws, traws anneuaidd, anneuaidd, a hunaniaethau rhywedd-cwïar eraill.   

Swyddog Rhyngwladol : Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli Myfyrwyr Rhyngwladol, gan geisio gwella profiad o fod yn fyfyrwyr rhyngwladol a hyrwyddo eu syniadau a’r materion hynny sy’n effeithio arnyn nhw. Mae gan y rôl gyfle i hwyluso sgyrsiau am ddiwylliant a chymuned, yn ogystal â gweithio i sicrhau bod holl fyfyrwyr PCyDDS yn cael eu cynnwys, yn enwedig y rhai sydd ymhell o gartref.   

Swyddog LHDT+ :Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr LHDT+, hyrwyddo materion LHDT+ a chynnig cefnogaeth i fyfyrwyr LHDT+. Mae gan y rôl y cyfle i hwyluso sgyrsiau a digwyddiadau o natur gynhwysol, a gall gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.   

Swyddog Amlddiwylliannol :Mae’r rôl hon yn bodoli i gynrychioli buddiannau myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth gyfartal, ac mae’n gweithio i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Mae'r rôl yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac mae’n gweithio i frwydro yn erbyn rhagfarnau.   

Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau : Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau myfyrwyr anabl, hyrwyddo materion perthnasol a chynnig cymorth i fyfyrwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer anableddau gweladwy ac anweledig, gan gynnwys anabledd corfforol, cyflyrau iechyd meddwl, salwch cronig, anableddau synhwyraidd, myfyrwyr niwroamrywiol, ac anawsterau/anableddau dysgu.  

Swyddog Gwirfoddoli a RAG:Mae'r rôl hon yn bodoli i hyrwyddo, hwyluso ac ymwneud ag unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli posibl y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt, yn ogystal â chefnogi unrhyw waith RAG (codi a rhoi) y gallai myfyrwyr ddymuno ei wneud ar eu campws.   

Swyddog Llesiant :Mae’r rôl hon yn bodoli i gynrychioli anghenion a phryderon myfyrwyr mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant cyffredinol, eirioli dros wasanaethau a mentrau gwell, yn ogystal ag atgyfeirio at wasanaethau sy’n bodoli eisoes lle bo’n briodol. Gall y rôl gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.  

Swyddog y Gymraeg :Mae'r rôl hon yn bodoli i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Gall y rôl godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo buddiannau’r myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli; gall lobïo dros newid ar draws y brifysgol, gall gynllunio a chynnal ymgyrchoedd, yn ogystal â chreu a hwyluso digwyddiadau cynhwysol sy’n arddangos yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.  

Swyddog y Menywod: Mae'r rôl hon yn bodoli i ymestyn ac amddiffyn hawliau menywod, hyrwyddo materion menywod a chynnig cymorth i fyfyrwragedd. Gall y rôl gynrychioli ac ymgyrchu ar faterion sy'n effeithio ar fenywod a gall gydweithio â swyddogion sabothol i lobïo am newid.   


Myfyriwr Ymddiriedolwr

Rhan-amser, Gwirfoddol

Mae Ymddiriedolwyr yn eistedd ar ein bwrdd; nhw sy’n gwneud y penderfyniadau terfynol, ac maent yn gyfrifol am ein llwyddiant. Dyma ein lefel uchaf o reolaeth a llywodraethiant.

Mwy am  Mywyriwr Ymddiriedolwr

Dylech sefyll i fod yn fyfyriwr ymddiriedolwr os oes gennych chi ddiddordeb yn y ffordd mae mudiadau'n gwneud penderfyniadau, os ydych yn awyddus i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithio er budd myfyrwyr PCyDDS, ac os ydych am helpu i lywio strategaeth y mudiad a'i gyfeiriad yn y dyfodol.

Rolau gwirfoddol yw’r rhain, er bod treuliau ar gael i alluogi ymddiriedolwyr i fynychu cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn helpu i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg er budd gorau myfyrwyr PCyDDS trwy graffu ar berfformiad a sicrhau bod yr Undeb yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn cael ei redeg mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy.

Mae gan yr ymddiriedolwyr reolaeth gyfreithiol dros y mudiad ac maent yn bersonol gyfrifol amdano. 

Caiff proses sefydlu, yn ogystal â hyfforddiant sgiliau ar gyfer bod yn ymddiriedolwr, eu trefnu i bawb a etholir. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn (10am - 3pm fel arfer) a dyrennir is-bwyllgor i bob Ymddiriedolwr hefyd, sy'n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn (fel arfer am 90 munud y tro).

I fod yn gymwys i fod yn Ymddiriedolwr:

  • Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i fod yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr
  • Ni chewch weithredu fel ymddiriedolwr os ydych wedi cael eich diarddel dan y Ddeddf Elusennau Mae hyn yn cynnwys:
  • Os ydych wedi cael eich diarddel fel cyfarwyddwr cwmni
  • Os oes euogfarn yn eich erbyn am drosedd sy'n ymwneud ag anonestrwydd neu dwyll
  • Os ydych yn fethdalwr (neu'n destun atafaeliad yn yr Alban), neu os oes gennych chi drefniant cyfredol (IVA) ar gyfer ad-dalu eich credydwyr
  • Os ydych wedi cael eich diarddel fel ymddiriedolwr unrhyw elusen gan y comisiwn (neu'r llys) oherwydd camymddygiad neu gamweinyddu

Cadeirydd yr Undeb

Rhan-amser, Gwirfoddol

Mae Cadeirydd yr Undeb yn rhoi cyfeiriad yn ystod trafodaethau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cynghorau Undeb, a fforymau trafod myfyrwyr eraill.

Mwy am Cadeirydd yr Undeb

Agored i bob myfyriwr. Mae Cadeirydd yr Undeb yn rhoi cyfeiriad yn ystod trafodaethau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cynghorau Undeb, a fforymau trafod myfyrwyr eraill. Maen nhw’n sicrhau bod trafodaethau’n deg a chytbwys, fel bod pob myfyriwr yn cael ei glywed.

Dylech chi sefyll am y rôl hon os nad ydych chi'n swyddog neu'n ymddiriedolwr yn Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd, os oes diddordeb gennych chi yng ngwaith Undeb y Myfyrwyr ac os ydych chi'n awyddus i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu er buddiannau gorau ei aelodau. Cewch hyfforddiant cadeirio cyfarfodydd os cewch eich ethol i'r rôl.

Rôl wirfoddol yw hon. Y Cadeirydd sy’n cadeirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr a phob cyfarfod o Gyngor yr UM. Mae'r rôl yn bodoli i sicrhau bod y drafodaeth a’r ddadl mewn cyfarfodydd yn deg a chytbwys, a bod pawb yn cael cyfle teg i siarad a rhannu eu meddyliau a'u syniadau. Darperir hyfforddiant!