Enwebiadau

Mae enwebiadau’n gyfnod o amser pan all myfyrwyr gyflwyno enwebiad i fod yn ymgeisydd yn ein hetholiadau myfyrwyr. Rydyn ni'n rhoi gwybod i'n haelodau pan fydd enwebiadau ar agor trwy gyhoeddi ein Hysbysiad Enwebiadau.

Os ydych chi wedi gweld rôl y mae gennych chi ddiddordeb ynddi - bydd angen i chi wneud enwebiad i ddod yn ymgeisydd. Sylwch fod yna derfynau amser a meini prawf cymhwysedd i'w bodloni - byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw eich enwebiad wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod trwy e-bost.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch e-bost i elections@uwtsd.ac.uk.


Canllaw: Sut i Enwebu

Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod am enwebiadau ac mae'n arweiniad cam-wrth-gam i gyflwyno enwebiad llwyddiannus. Os oes angen unrhyw help arnoch, anfonwch e-bost atom yn elections@uwtsd.ac.uk.

Trawsgrifiad Fideo

Helo bawb, Matt o Undeb Myfyrwyr sydd yma, ac rydw i'n mynd i esbonio'r holl broses enwebu.

Byddaf yn dweud wrthych chi bopeth sydd angen i chi ei wneud ar gyfer enwebiad llwyddiannus - gadewch i ni fynd ati.
Cyn i ni ddechrau, mae yna ychydig o bethau y mae angen i chi fod wedi penderfynu arnyn nhw.

Rhif un - mae angen i chi wybod pa rôl rydych chi'n enwebu'ch hun ar ei chyfer.

Rhif dau - mae angen i chi wybod sut rydych chi eisiau i'ch enw ymddangos ar y papur pleidleisio.

Rhif tri - bydd angen llun ohonoch chi'ch hun yn barod i'w uwchlwytho, ynghyd â chopi o'ch maniffesto yn barod i'w atodi i'ch cyflwyniad enwebu.

Mae cyflwyno llun neu faniffesto yn ddewisol.
Rwy'n dechrau ar ein tudalen we enwebiadau - rwyf wedi darllen yr holl fanylion ac rwy'n gwybod yn union pa rôl rwyf am enwebu fy hun ar ei chyfer.
I ddechrau'r broses, mae angen i mi glicio'r botwm porffor ar gyfer enwebu fy hun.

Mae hyn yn mynd â ni i'r porth enwebu - dyma'r rhan bwysig - rhaid i chi fod wedi mewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr.

Pan fyddaf yn cyrraedd y porth enwebiadau, byddaf yn gweld rhestr lawn o'r holl rolau y gallaf enwebu fy hun ar eu cyfer.

Yn yr enghraifft hon, rydw i'n mynd i wneud cais am rôl Llywydd Campws - y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw clicio'r botwm cyflwyno porffor.
Mae hyn yn lawrlwytho'r ffurflen enwebu ar gyfer y rôl. Mae'r dudalen hon yn amlinellu teitl y rôl, ac mae yna fotwm ar gyfer y cyfrifoldebau. Am y tro, rydw i'n mynd i ddechrau llenwi'r manylion  

Yn gyntaf, rydw i'n mynd i newid sut mae fy enw'n ymddangos ar y papur pleidleisio - rydw i eisiau iddo ymddangos fel Matt yn lle Matthew. I wneud hynny, rwy'n teipio dros y cynnwys sydd yna’n barod.

Nesaf, mae gen i'r opsiwn o uwchlwytho llun ohonof fy hun. Rwy'n mynd i ddewis fy llun gan ddefnyddio'r teclyn uwchlwytho ffeiliau.

Rwy'n dod o hyd i'r llun ohonof fy hun rwyf am ei uwchlwytho ac yn clicio ar agor. Yna rydw i'n mynd i sgrolio i lawr i'r adran Maniffesto; dyma ble mae angen i mi atodi fy Maniffesto - gan roi sylw manwl i’r cyfrif geiriau.

Yn olaf, rydw i'n mynd i wirio popeth unwaith yn rhagor i wneud yn siŵr fy mod i'n hapus - rydw i'n fodlon â sut mae fy enw'n ymddangos ar y papur pleidleisio, rydw i wedi uwchlwytho fy llun, ac rydw i wedi ychwanegu fy Maniffesto.

Ar ôl i mi wneud hynny, y cyfan sydd angen i mi ei wneud yw clicio'r botwm cyflwyno enwebiad - a dyna ni, mae fy enwebiad wedi'i gyflwyno.

Bydd aelod o'r tîm yn rhoi gwybod i mi a yw fy enwebiad wedi bod yn llwyddiannus trwy e-bost.

Os oes angen unrhyw help arnoch chi, cysylltwch â'n tîm etholiadau; mae manylion cyswllt yn y capsiwn.

Lawrlwytho Trawsgrifiad

Trawsgrifiad (.TXT - 2KB)

Rhestr Wirio Enwebiadau

Cyn i chi neidio i mewn a dechrau enwebu eich hun - mae yna ychydig o bethau sydd angen i chi eu gwneud:

  1. Dod o hyd i rôl rydych chi am enwebu’ch hun ar ei chyfer ar ein gwefan swyddogol hysbysiad o enwebiadau.
  2. Gwybod sut rydych chi eisiau i'ch enw ymddangos ar gyfer y papur pleidleisio (sut rydych chi eisiau i'ch enw ymddangos pan fydd myfyrwyr yn ymweld â'r wefan bleidleisio).
  3. Bod â llun ohonoch chi'ch hun yn barod i'w uwchlwytho (mae hyn yn ddewisol).
  4. Yn olaf, bydd angen i chi ddarparu maniffesto - dyma ddatganiad ysgrifenedig byr y mae myfyrwyr yn ei weld pan fyddant yn dod i bleidleisio. Defnyddiwch eich maniffesto i ddweud wrth fyfyrwyr pam y dylen nhw bleidleisio drosoch chi! Mae terfyn o 200 gair - edrychwch ar ein tudalen we awgrymiadau ysgrifennu maniffesto am awgrymiadau.
     

Canllaw cam-wrth-gam

Dyma ganllaw cam-wrth-gam i'r broses enwebu ar ein gwefan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi'n profi anawsterau technegol, cysylltwch ag aelod o'n tîm Etholiadau yn elections@uwtsd.ac.uk.


  1. Cam Un: Darllenwch yr hysbysiad o enwebiadau a dod o hyd i rôl yr hoffech wneud cais amdani. Unwaith i chi ddod o hyd i un, tapiwch y botwm i enwebu eich hun. Bydd hyn yn mynd â chi i'r porth enwebu - bydd angen i chi fewngofnodi â'ch cyfrif myfyriwr os nad ydych chi eisoes wedi mewngofnodi.

  2. Cam Dau: Mae'r porth enwebiadau yn dangos rhestr o rolau yn ein hetholiad. Dewch o hyd i'r rôl rydych chi eisiau enwebu eich hun ar ei chyfer, ac yna cliciwch y botwm cyflwyno i uwchlwytho'r ffurflen enwebu swyddogol.

  3. Cam Tri: Mae'r ffurflen enwebu yn dangos teitl y rôl a’i chyfrifoldebau, ynghyd â meysydd i chi gyflwyno'ch enw, llun, a maniffesto. Mae gennych chi'r opsiwn o ddewis sut mae eich enw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.

  4. Cam Pedwar: Ar gyfer eich llun Enwebai, gallwch uwchlwytho llun neu defnyddiwch lun proffil eich cyfrif os ydych chi eisoes wedi uwchlwytho un.

  5. Cam Pump: Nawr mae angen i chi ychwanegu eich maniffesto - mae cyfrif geiriau yn cael ei arddangos ar y gwaelod ar y dde - gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n mynd dros y terfyn geiriau.

  6. Cam Chwech: Unwaith y byddwch chi wedi ychwanegu'r holl gynnwys gofynnol, tapiwch y botwm cyflwyno enwebiadau i anfon eich enwebiad atom. Byddwch yn cael neges yn dweud bod yr enwebiad wedi'i gyflwyno i'w gymeradwyo. Bydd aelod o'r tîm yn adolygu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi a gafodd ei gymeradwyo neu ei wrthod trwy e-bost.

Gwybodaeth Bwysig

Isod mae meini prawf cymhwysedd pwysig ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau enwebu eu hunain - felly gwnewch yn siŵr fod hyn yn berthnasol i chi. Os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth, anfonwch e-bost atom yn elections@uwtsd.ac.uk.

  1. Rhaid i chi fod yn fyfyriwr trwy gydol y flwyddyn academaidd i gael eich enwebu fel Swyddog Rhan-amser, Myfyriwr Ymddiriedolwr, neu Gadeirydd yr Undeb.
  2. Rhaid i chi fod naill ai'n fyfyriwr sy'n graddio neu'n cymryd seibiant o'ch astudiaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod i gael eich enwebu fel un o Lywyddion yr Undeb (Swyddog Sabothol).
  3. Rhaid i Lywyddion yr Undeb a Myfyrwyr Ymddiriedolwyr fodloni'r gofynion cymhwysedd.
  4. Ni fydd y person rydych chi'n ei argymell yn cael ei enwebu'n awtomatig - byddwn ni'n cysylltu â nhw i ddweud wrthyn nhw am eich argymhelliad, ond eu dewis nhw yw cael eu henwebu ai peidio.