Cwynion

Cwynion

Mae rheolau i’w dilyn yn ein hetholiadau, ac os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi eu torri neu nad yw rhywbeth yn iawn – gallwch wneud cwyn.

Gall unrhyw aelod o Undeb y Myfyrwyr gyflwyno cwyn trwy lenwi'r Ffurflen Gwynion Etholiadol ar-lein.

Rhaid ategu cwynion gyda thystiolaeth a’u cyflwyno o fewn 24 awr i’r digwyddiad ac erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau; rhaid eu cyflwyno o fewn 24 awr i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Ffurflen Gwynion