Gyrfaoedd

Gyrfaoedd

Dechreuwch yrfa sy'n rhoi boddhad ac sy'n helpu myfyrwyr PCyDDS i wneud y gorau o'u hamser yn y brifysgol, waeth beth na ble maen nhw'n astudio.

Gyrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth

Rydyn ni'n fach ond yn nerthol! Byddwch chi'n adnabod enwau pawb sy'n gweithio yma. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n barod i gyflawni unrhyw beth gyda'ch gilydd. Yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS, mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch chi'n rhan o rywbeth mwy. Mae pawb yn gweithio i wella profiad myfyrwyr yn PCyDDS; byddem wrth ein bodd clywed gennych chi os oes diddordeb gennych chi mewn gwneud gwahaniaeth.

Buddion gweithio yn Undeb Myfyrwyr PCyDDS

🏖️ Gwyliau Blynyddol Hael

Mwy na 40 diwrnod o wyliau bob blwyddyn. Mae hynny’n cynnwys 28 diwrnod o Wyliau Blynyddol, 8 Gŵyl Banc, ynghyd â diwrnodau pan fydd yr Undeb ar gau (sy'n cynnwys pythefnos i ffwrdd dros wyliau'r Nadolig).

📚 Hyfforddiant a Datblygiad

Byddwn yn darparu staff yng Nghymru â chymhwyster rheolaeth ILM am ddim, yn ogystal â chyfleoedd datblygiad proffesiynol eraill.

💻 Gweithio Hybrid

Rydym yn agored i weithio hyblyg; gydag agwedd hybrid tuag at weithio o bell ac ar y campws lle bo hynny'n bosibl.

💜 Cymorth a Llesiant

Bydd gennych chi fynediad i Gynllun Cymorth y Gweithwyr i helpu â chynorthwyo eich iechyd meddwl a'ch llesiant.

Cyflawni pethau gwych i fyfyrwyr

💷 Enillwyd £14,800 i fyfyrwyr

Yn ystod semester cyntaf y flwyddyn academaidd 2021, rydym wedi helpu myfyrwyr i sicrhau gwerth dros £14,800 mewn bwrsariaethau, cyllido a gostyngiadau mewn ffioedd.

😌 £50,000 ar gyfer iechyd meddwl gwell

Rydym wedi derbyn £50,000 gan CCAUC i helpu â gwella iechyd meddwl myfyrwyr.

🌲 Plannu dros 1,000 o goed

Mae ein myfyrwyr wedi plannu dros 1,000 fel rhan o'r prosiect Plannu Mawr, sy'n cael ei redeg gyda'n cymdeithas Amgylcheddol. 

🍻 Bariau Myfyrwyr wedi'u hailwampio

Yn gynharach eleni, aethom ati i ailwampio'n llwyr ein bariau myfyrwyr yng Nghaerfyrddin a Llambed. 

🏢 Swyddfa newydd sbon yn Llundain

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym swyddfa newydd ar ein Campws yn Llundain, ac mae gennym dîm sy’n tyfu yn Llundain.

🏆 Effaith Gwyrdd UCM - 'Da Iawn' 

Rydym wedi derbyn 'Da Iawn' gan Effaith Gwyrdd UCM fel rhan o'n hymrwymiad i gynaladwyedd.

🗳️ Pŵer i'n myfyrwyr

Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed yn pleidleisio yn ein hetholiadau - sy'n helpu i sicrhau bod yr Undeb a'r Brifysgol yn clywed llais ein myfyrwyr.

🍝 Parseli bwyd am ddim.

Yn ystod y pandemig, buom yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddarparu parseli bwyd am ddim i fyfyrwyr oedd yn hunan-ynysu.

🏄 Dros 50 o ddigwyddiadau Rhowch Gynnig Arni

Yn ystod tymor cyntaf 2021, rydyn ni wedi cynnal dros 50 o ddigwyddiadau trwy ein prosiect Rhowch Gynnig Arni newydd. Mae'r digwyddiadau hyn naill ai am ddim neu ar gael am gost isel, a heb fawr o ymrwymiad.

Tystebau Staff

Profile Photo

Mae gweithio mewn Undeb Myfyrwyr yn swydd anhygoel i'w chael, ac mae cael effaith gadarnhaol enfawr ar fyfyrwyr yn rhoi boddhad mawr. Mae Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn cynnwys tîm anhygoel sy’n gweithio gyda’i gilydd i fod yn arloesol er budd profiad myfyrwyr. 

Roedd pawb yn groesawgar iawn pan ymunais yn 2020, ac wrth i mi ddod i adnabod pawb daeth y teimlad yn well. Mae’r staff yma wir yn malio am eu gwaith ac yn rhoi 100% i bopeth a wnânt, tra hefyd yn cefnogi ei gilydd i gyrraedd pa bynnag nod sydd gennym. 

Mae cymaint o gyfleoedd datblygu, o sgiliau rheolwr-llinell, i arweinyddiaeth i gymwysterau priodol. Rwyf wedi cwblhau fy ILM Lefel 3 a bron wedi cwblhau fy ILM Lefel 4 gyda chefnogaeth fy rheolwr. 

Mae'n swydd sy'n symud yn gyflym, ond nid wyf wedi dod ar draws sefydliad sydd mor gefnogol o'u tîm â hwn gyda sesiynau 1-2-1 wythnosol gyda rheolwyr llinell, cynllun cymorth gweithwyr, diwrnodau datblygu staff a mwy. Byddwch chi wir yn teimlo'n gartrefol yma, ym mha bynnag gampws rydych chi wedi'ch lleoli.
 

Taz Jones

Profile Photo

Mae Undeb Myfyrwyr yn lle gwych i weithio ynddo. Mae cymaint o amrywiaeth i’n gwaith, ac rydym bob amser yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Rwy'n meddwl mai dyna fy hoff beth am weithio i UM; mae'r amrywiaeth yn rhywbeth na fyddwch chi'n cael cyfle i’w wneud i'r un raddfa mewn swyddi eraill. Mae UM PCyDDS yn lle arbennig o ddiddorol i weithio ynddo oherwydd cyd-destun unigryw’r Brifysgol. Mae'n lle gwych i herio'ch hun mewn amgylchedd newydd os oes gennych chi ddiddordeb mewn UMau neu Addysg Uwch.

Euan Morrison

Profile Photo

Rwy'n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr a allai fod yn mynd trwy gyfnod anodd ac yn eu helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau i'r heriau y maent yn eu hwynebu, sy'n rhoi boddhad mawr i mi - rwy'n gorffen bron bob diwrnod gwaith gydag ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad. Rwyf wedi cael cyfleoedd i ennill cymwysterau mewn iechyd meddwl a gwaith cynghori, ac i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg. Gan weithio gartref ac ar draws y gwahanol gampysau, mae cymaint o amrywiaeth yn perthyn i’r rôl, ac mae holl dîm yr UM yn grŵp o bobl mor gefnogol, calonogol ac (yn anad dim) yn hwyl i weithio gyda nhw. 

Richard Buckley