Hen Far ac Xtension

Xtension yw’r lleoliad ar gampws Llambed ar gyfer y Glas, Nosweithiau Allan Mawr a Chwaraeon Byw. Rydyn ni ar lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr; byddwn yn darparu cerddoriaeth ragorol, digwyddiadau gwych a diodydd rhad. 

Hen Far yw’r bar ac ardal myfyrwyr ar gampws Llambed. Mae wedi’i leoli ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr; byddwn yn darparu cerddoriaeth wych, teledu, gemau fideo, gemau bwrdd a diodydd rhad. 

Mae wedi’i leoli ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr; byddwn yn darparu cerddoriaeth wych, teledu, gemau fideo, gemau bwrdd a diodydd rhad.

Ddim yn gwybod ble mae adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Llambed? Gallwch weld y lleoliad ar Google Maps.

Cadwch yn Gyfoes

 

Oriau Agor

  • Old Bar yn agored 20:00 - 23:00, Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn.
  • Xtension yn agored 22:00 - 02:00, ar gyfer nosweithiau clwb a digwyddiadau sydd wedi'u trefnu.

 

Dau ar dydd Mawrth

Bob dydd Mawrth gallwch brynu 2 ddiod alcohol am £5* neu 2 ddiod di-alcohol am £3! Mae’r cynnig ar gael tan 23:00. *Peintiau neu un joch o unrhyw wirodydd gyda chymysgydd; rhaid i’r diodydd fod yr un fath.

 

Gwybodaeth Ddefnyddiol

  • Ardaloedd Cymdeithasol 🛋️
    Mae gennym ni lwyth o fyrddau mawr a bach, gyda digonedd o seddi a sofas mawr cyfforddus – lleoliad perffaith i fyfyrwyr ddod at ei gilydd, ymlacio a sgwrsio.
  • Wi-Fi 💻
    Mae gan Hen Far ac Xtension Wi-Fi am ddim – does ond angen i chi gysylltu gyda’ch manylion mewngofnodi myfyriwr.
  • Hygyrchedd ♿
    Hen Far ac Xtension yn wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, gyda llawr gwastad a mynediad gyda ramp i bobman.
  • Toiledau 🚽
    Mae yna gyfleusterau toiled ar y llawr gwaelod.
Gallwch weld beth sydd wedi bod yn digwydd yn Llambed!