Swyddi ar gyfer Myfyrwyr
Swyddi, interniaethau, a chyfleoedd â thâl ar gyfer myfyrwyr PCyDDS
Ar y dudalen hon, fe welwch gyfleoedd ar gyfer gwaith cyflogedig yn Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol, a gyda busnesau allanol dethol. Rydyn ni eisiau eich helpu chi i ddod o hyd i waith sy'n talu'n deg ac nad yw'n fwy nag 16 awr yr wythnos, fel bod gennych chi amser i wneud y pethau rydych chi am eu gwneud, ochr-yn-ochr â'ch astudiaethau.
Gwybodaeth ar gyfer Myfyrwyr
- Astudio, byw a gweithio: Fyddwn ni byth yn hysbysebu rôl nad yw’n talu o leiaf Cyflog Byw’r DU neu rôl sydd dros 15 awr yr wythnos (i sicrhau bod gennych amser i astudio, byw a gweithio).
- Siarter Swyddi Myfyrwyr: Gofynnwn i chi a'r darparwyr swyddi allanol lofnodi ein Siarter Swyddi Myfyrwyr.
- Gwasanaeth Gyrfaoedd: Gwnewch yn siwr eich bod yn bwrw golwg ar Abintegro hyb gyrfaoedd ar-lein y brifysgol. Dylech hefyd wneud defnydd o wasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n wych.
- Eich Llesiant: Cyn gwneud cais am rôl, ystyriwch eich llesiant - peidiwch ag ymgymryd â gormod y tu allan i astudio.
- Ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol? Weithiau mae yna reoliadau sy'n golygu na allwch chi weithio nifer penodol o oriau mewn un swydd neu nifer o swyddi wrth astudio. Gwiriwch gyda'r Gofrestrfa Ryngwladol cyn gwneud cais am rôl; byddant yn eich helpu i sicrhau faint o oriau y gallwch chi weithio.
- Ein Meddyliau: Rydym hefyd eisiau bod yn glir; dydyn ni ddim yn credu y gall myfyrwyr weithio eu ffordd allan o'r argyfwng costau byw presennol. Mae angen mwy o waith ar draws y DU i ddarparu cynhaliaeth i fyfyrwyr yn ystod y sefyllfa bresennol. Mae cymorth ar gael trwy Fframwaith bwrsariaethau'r Brifysgol.
Gwybodaeth ar gyfer Cyflogwyr
I hysbysebu gyda ni, cwblhewch ein
ffurflen swyddi myfyrwyr. Isod mae rhai pwyntiau allweddol cyn y gallwn restru eich cyfle gwaith.
- Tâl ac oriau: Rhaid i chi dalu cyflog byw cenedlaethol y DU a rhaid i'r rôl fod yn 15 awr neu lai’r wythnos.
- Siarter Swyddi Myfyrwyr. Rhaid i chi dderbyn y Siarter Swyddi Myfyrwyr.
- Gwiriadau ar hap: O fewn ein Siarter Swyddi Myfyrwyr, rydym yn cadw’r hawl i hapwirio unrhyw gyflogwr sy’n dymuno hysbysebu gyda ni (byddem yn gofyn am gopïau o bolisïau penodol gan gynnwys cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, strwythur rheoli, prawf o gyfradd tâl ar gyfer eich cyflogeion sy’n fyfyrwyr, a statws cofrestredig y cwmni).