Rydym yn chwilio am oruchwyliwr angerddol a dibynadwy sydd â phrofiad, egni a brwdfrydedd i ymuno â’n bar myfyrwyr.
Sut i Ymgeisio?
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol at reolwr y bar, Katie Heath, Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant.
katie.heath@uwtsd.ac.uk
Cyflog: £11.50 yr awr
Lleoliad: Campws Llambed
Rheolwr Llinell: Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau
- Cyrraedd y gwaith yn brydlon gan wisgo dillad priodol neu lifrai swyddogol yn ôl y galw.
- Paratoi, gweini a chymryd taliad am fwyd a diodydd
- Helpu i drefnu a pharatoi ar gyfer digwyddiadau yn ôl yr angen
- Arwain y tîm trwy esiampl er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu
- Helpu i drefnu rotas a chanfod staff cyflenwi pan fo angen
- Nodi a oes angen mwy o hyfforddiant ar staff a rhoi gwybod i Reolwr y Lleoliad am hyn
- Nodi unrhyw broblemau gyda pherfformiad staff ac adrodd am hyn i Reolwr y Lleoliad
- Gwirio’r stoc diod yn wythnosol ac adrodd am yr angen i archebu stoc newydd neu gynnyrch sydd ddim yn gwerthu
- Gweithio i dargedau er mwyn sicrhau bod y busnes yn gwneud elw a bod cyn lleied â phosib o wastraff
- Helpu i hyfforddi aelodau staff newydd a chynnig arweiniad iddynt
- Sicrhau y cedwir at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid
- Goruchwylio gweithrediadau'r bar a rhedeg y bar o ddydd i ddydd pan fydd Rheolwr y Bar i ffwrdd o’r gwaith
- Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ac amodau trwyddedu a chwblhau cofnodion angenrheidiol, ynghyd â systemau archwilio ac ariannol, gan roi gwybod i Reolwr y Bar am unrhyw bryderon yn brydlon.
- Cydymffurfio â chôd ymddygiad Undeb y Myfyrwyr a chanllawiau llawlyfr y staff
- Sicrhau bod pob gofal rhesymol yn cael ei gymryd o ran eich iechyd a diogelwch eich hun, gweithiwyr eraill, gwesteion a phobl eraill sydd yn yr adeilad.
- Sicrhau y caiff delwedd addas ei chyflwyno i'r cwsmeriaid, gan gadw at holl bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'u hyrwyddo.
- Adrodd am unrhyw ddamwain neu niwed a, lle bo'n bosibl, gweithredu arnynt.
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol drwy'r amser
- Sicrhau bod yr holl ddrysau tân ar gau a bod yr holl lwybrau tân yn cael eu cadw'n glir drwy'r amser.
- Cynorthwyo â rhedeg y bar mewn lleoliadau eraill yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol fel bo angen.
- Hyrwyddo a hysbysebu gweithgareddau a chynnyrch gwasanaethau'r bar yn effeithiol
- Mynychu unrhyw hyfforddiant y cewch eich cyfeirio ato gan eich rheolwr
- Mynychu cyfarfodydd/sesiynau hyfforddi fel bo angen.
- Ymgymryd ag unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Tîm Rheoli.
Gall deilydd y rôl ddisgwyl gweithio mewn sawl digwyddiad i'r Brifysgol fel rhan o'r rôl hon, er mwyn gwella'r ysbryd partneriaeth sy’n bodoli rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.
Cyffredinol
- Parchu strwythur democrataidd Undeb y Myfyrwyr drwy'r amser a chynnal persona proffesiynol yn y gwaith ac ar gyfryngau cymdeithasol fel llysgennad yr Undeb.
- Sicrhau y caiff delwedd gadarnhaol o Undeb y Myfyrwyr ei chyflwyno, yn fewnol ac yn allanol, trwy ddangos safon uchel o broffesiynoldeb, parch, ymddygiad a gwasanaeth.
- Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hwn yn rhestr holl-gynhwysfawr, nid yw'n ffurfio unrhyw ran o gytundeb cyflogaeth a chaiff ei adolygu'n flynyddol.