Mae'r siarter cyflogadwyedd hon yn nodi safonau clir y mae'n rhaid i'r cwmnïau a'r myfyrwyr gadw atynt er mwyn caniatáu ar gyfer yr amgylchedd gwaith gorau i bawb. Mae'r gallu i gyflogi neu weithio i un o'r cwmnïau hyn yn caniatáu twf ar y cyd. Mae’r siarter hon yn seiliedig ar egwyddorion ac nid yw’n bolisi ffurfiol Undeb Myfyrwyr PCyDDS.
Disgwyliadau o Fusnesau
- Amgylchedd gweithio iach a diogel, asesiadau risg priodol, ac yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar waith.
- Darparu cyflwyniad llawn i'r Staff gan gynnwys adolygiad o holl bolisïau a gweithdrefnau'r cwmni.
- Darparu contract llawn yn nodi telerau ac amodau cyflogaeth.
- Ni fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mwy na 15 awr yr wythnos, (neu lai yn dibynnu ar statws myfyrwyr rhyngwladol).
- Hyfforddiant parhaus i alluogi myfyrwyr i wneud eu gwaith i'r safon ofynnol.
- Darparu o leiaf hyfforddiant statudol i gyflawni eu rôl.
- Lle bo modd, darparu cyfleoedd ar gyfer sgiliau a chymwysterau ychwanegol i fyfyrwyr.
- Bydd gan reolwyr a goruchwylwyr berthynas broffesiynol agored a gonest gyda myfyrwyr, a byddant bob amser yn trin cyflogwyr â pharch.
- Cefnogaeth barhaus i fyfyrwyr pan fydd ganddynt broblem gyda'r swydd a helpu i ddatrys unrhyw anawsterau yn y gweithle’n brydlon
- Darparu sesiynau cymorth a goruchwyliaeth rheolaidd i alluogi'r myfyriwr i ddatblygu.
- Cofiwch ystyried fod yna adegau pan fydd angen i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau neu astudio, a pheidio â rhoi pwysau gormodol arnynt i weithio yn ystod yr amseroedd hyn os cewch eich hysbysu ymlaen llaw.
- Mae angen bod yn hyblyg o ran amserlennu gweithio o amgylch cyfnodau asesu myfyrwyr.
- Ni fydd amgylchedd gwaith ble mae yna unrhyw fath o aflonyddu, bwlio a chamwahaniaethu yn cael ei oddef.
- Dylai'r gweithle fod yn gynhwysol, ble caiff cydraddoldeb, amrywioldeb a chynwysoldeb eu hyrwyddo’r rhagweithiol.
- Rhaid talu cyflog byw cenedlaethol y DU i bob gweithiwr.
- Rhaid i'r cwmni fod yn amgylcheddol gynaliadwy a chyrchu deunyddiau o ffynonellau moesegol.
- Rhaid i'r cwmni fod yn gwmni cofrestredig.
- Rhaid gwneud taliadau trwy feddalwedd cyflogres ac nid ar ffurf 'arian parod'
Disgwyliadau o Fyfyrwyr
- Cyrraedd yn brydlon ac yn barod ar gyfer gwaith mewn ffordd gadarnhaol ac egniol
- Rhaid i chi fod yn onest ac yn barchus tuag at eraill bob amser
- Dilynwch unrhyw weithdrefnau a osodir, e.e. iechyd a diogelwch pan fyddant ar gael
- Rhaid i chi gadw’n gyfoes ag anghenion eich swydd trwy fynychu hyfforddiant a ddarperir.
- Rhaid bod yn gymwys i weithio yn y DU a bod yn onest â chyflogwyr am unrhyw rolau eraill, yn enwedig os ydych chi ar fisa penodol
- Dylai pob gweithiwr sy’n fyfyriwr rhyngwladol ofyn am gadarnhad gan dîm cofrestrfa ryngwladol y brifysgol i gadarnhau eu cymhwysedd i weithio ac uchafswm nifer yr oriau cyn ymgymryd ag unrhyw waith cyflogedig.
- Mae angen darparu aelodau staff ag amserlenni a therfynau amser asesu.
Telerau ac Amodau
Mae Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cadw’r hawl i gynnal archwiliadau a hapwiriadau ar weithwyr a chwmnïau (ar fyr rybudd). Mae hyn er mwyn sicrhau bod siarter Cyflogadwyedd Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cael ei dilyn.