Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu / Cynorthwywyr Addysgu

Mae Dosbarth yn recriwtio ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu / CA 

Fel arfer bydd eich rôl fel Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu / CA yn gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig. 

Mae cynorthwywyr addysgu yn aelodau gwerthfawr o staff yr ysgol ac yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgyblion mewn dysgu. 

Maent yn cefnogi grwpiau o fyfyrwyr gyda mathemateg, darllen ac ysgrifennu, fel arfer yn rhan-amser neu yn ystod y tymor yn unig. Mae Cynorthwywyr Addysgu’n helpu myfyrwyr yn eu datblygiad addysgol a chymdeithasol ac yn rhoi cymorth i'r athro yn eu gwersi. 

Mae rhai CA yn gweithio gydag unigolion neu grwpiau bach o blant yn yr ystafell ddosbarth; mae cynorthwywyr addysgu eraill yn derbyn hyfforddiant i weithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig (AAA).

Gellir darparu hyfforddiant mewn anghenion addysgol arbennig ar gyfer ein myfyrwyr os oes angen.

Mae'r Swydd hon yn cynnig oriau hyblyg, byddech yn hysbysu Dosbarth o'ch argaeledd.
 

 

Sut i Ymgeisio:

Cofrestrwch trwy eu ffurflen gysylltu (bydd hwn yn agor mewn ffenest newydd): www. dosbarth.cymru/recruitment/respond?formToken=q1rfz1ffatfknvob 

Ffôn: 07411 751875 

 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: mae hon yn broses recriwtio barhaus; does dim dyddiad cau penodol.

Cyflog: Ar gyfer CCD/TA lefel 1, mae'n £79.96 y dydd - Mae'r Swydd hon yn cynnig oriau hyblyg, byddech yn hysbysu Dosbarth o'ch argaeledd.