Goruchwyliwr Bar (Caerfyrddin)

Rydym yn chwilio am oruchwyliwr angerddol a dibynadwy sydd â phrofiad, egni a brwdfrydedd i ymuno â’n bar myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin

 

Sut i Ymgeisio?

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol at reolwr y bar, Katie Heath, Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant

katie.heath@uwtsd.ac.uk

 

Cyflog: £11.50 yr awr 

Lleoliad: Campws Caerfyrddin

Rheolwr Llinell: Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant 

Cyfrifoldebau a Dyletswyddau 

  • Cyrraedd y gwaith yn brydlon gan wisgo dillad priodol neu lifrai swyddogol yn ôl y galw.
  • Paratoi, gweini a chymryd taliad am fwyd a diodydd
  • Helpu i drefnu a pharatoi ar gyfer digwyddiadau yn ôl yr angen
  • Arwain y tîm trwy esiampl er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu
  • Helpu i drefnu rotas a chanfod staff cyflenwi pan fo angen
  • Nodi a oes angen mwy o hyfforddiant ar staff a rhoi gwybod i Reolwr y Lleoliad am hyn
  • Nodi unrhyw broblemau gyda pherfformiad staff ac adrodd am hyn i Reolwr y Lleoliad
  • Gwirio’r stoc diod yn wythnosol ac adrodd am yr angen i archebu stoc newydd neu gynnyrch sydd ddim yn gwerthu
  • Gweithio i dargedau er mwyn sicrhau bod y busnes yn gwneud elw a bod cyn lleied â phosib o wastraff
  • Helpu i hyfforddi aelodau staff newydd a chynnig arweiniad iddynt
  • Sicrhau y cedwir at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch a hylendid
  • Goruchwylio gweithrediadau'r bar a rhedeg y bar o ddydd i ddydd pan fydd Rheolwr y Bar i ffwrdd o’r gwaith
  • Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ac amodau trwyddedu a chwblhau cofnodion angenrheidiol, ynghyd â systemau archwilio ac ariannol, gan roi gwybod i Reolwr y Bar am unrhyw bryderon yn brydlon.
  • Cydymffurfio â chôd ymddygiad Undeb y Myfyrwyr a chanllawiau llawlyfr y staff
  • Sicrhau bod pob gofal rhesymol yn cael ei gymryd o ran eich iechyd a diogelwch eich hun, gweithiwyr eraill, gwesteion a phobl eraill sydd yn yr adeilad.
  • Sicrhau y caiff delwedd addas ei chyflwyno i'r cwsmeriaid, gan gadw at holl bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'u hyrwyddo.
  • Adrodd am unrhyw ddamwain neu niwed a, lle bo'n bosibl, gweithredu arnynt.
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol drwy'r amser
  • Sicrhau bod yr holl ddrysau tân ar gau a bod yr holl lwybrau tân yn cael eu cadw'n glir drwy'r amser.
  • Cynorthwyo â rhedeg y bar mewn lleoliadau eraill yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol fel bo angen.
  • Hyrwyddo a hysbysebu gweithgareddau a chynnyrch gwasanaethau'r bar yn effeithiol
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant y cewch eich cyfeirio ato gan eich rheolwr
  • Mynychu cyfarfodydd/sesiynau hyfforddi fel bo angen.
  • Ymgymryd ag unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Tîm Rheoli.

Gall deilydd y rôl ddisgwyl gweithio mewn sawl digwyddiad i'r Brifysgol fel rhan o'r rôl hon, er mwyn gwella'r ysbryd partneriaeth sy’n bodoli rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.

Cyffredinol

  • Parchu strwythur democrataidd Undeb y Myfyrwyr drwy'r amser a chynnal persona proffesiynol yn y gwaith ac ar gyfryngau cymdeithasol fel llysgennad yr Undeb.  
  • Sicrhau y caiff delwedd gadarnhaol o Undeb y Myfyrwyr ei chyflwyno, yn fewnol ac yn allanol, trwy ddangos safon uchel o broffesiynoldeb, parch, ymddygiad a gwasanaeth.  
  • Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hwn yn rhestr holl-gynhwysfawr, nid yw'n ffurfio unrhyw ran o gytundeb cyflogaeth a chaiff ei adolygu'n flynyddol.