Staff Bar (Llambed)

Mae angen staff bar i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon. Cyflawni archebion yn gywir, gyda chwrteisi, yn unol â'n safonau mewnol a'r rhai sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.

 

Sut i Ymgeisio?

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol at reolwr y bar, Katie Heath, Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant.

katie.heath@uwtsd.ac.uk

 

Cyflog: £10.42 yr awr 

Lleoliad: Campws Llambed

Rheolwr Llinell: Rheolwr Lleoliadau ac Adloniant 

Cyfrifoldebau a Dyletswyddau 

  • Cyrraedd y gwaith yn brydlon gan wisgo dillad priodol neu lifrai swyddogol yn ôl y galw.  
  • Gweini ystod o ddiodydd, gan gynnwys alcohol, i fyfyrwyr  
  • Cymryd taliadau'n gywir ar gyfer diodydd / byrbrydau a werthir  
  • Sicrhau y cedwir at bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch drwy'r amser  
  • Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth ac amodau trwyddedu a chwblhau cofnodion, systemau archwilio ac ariannol angenrheidiol, gan roi gwybod i Reolwr y Bar am unrhyw bryderon heb oedi.  
  • Cydymffurfio â chôd ymddygiad Undeb y Myfyrwyr a chanllawiau llawlyfr y staff 
  • Sicrhau bod pob gofal rhesymol yn cael ei gymryd o ran eich iechyd a diogelwch eich hun, gweithiwyr eraill, gwesteion a phobl eraill sydd yn yr adeilad. 
  • Sicrhau y caiff delwedd addas ei chyflwyno i'r cwsmeriaid, gan gadw at holl bolisïau Undeb y Myfyrwyr a'u hyrwyddo.  
  • Adrodd am unrhyw ddamwain neu niwed a, lle bo'n bosibl, gweithredu arnynt. 
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol drwy'r amser 
  • Sicrhau bod yr holl ddrysau tân ar gau a bod yr holl lwybrau tân yn cael eu cadw'n glir drwy'r amser. 
  • Cynorthwyo â rhedeg y bar mewn lleoliadau eraill yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol fel bo angen. 
  • Hyrwyddo a hysbysebu gweithgareddau a chynnyrch gwasanaethau'r bar yn effeithiol  
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant y cewch eich cyfeirio ato gan eich rheolwr 
  • Mynychu cyfarfodydd/sesiynau hyfforddi fel bo angen. 
  • Ymgymryd ag unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Tîm Rheoli. 
  • Gall deilydd y rôl ddisgwyl gweithio mewn sawl digwyddiad i'r Brifysgol fel rhan o'r rôl hon, er mwyn gwella'r ysbryd partneriaeth sy’n bodoli rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. 

Cyffredinol

  • Parchu strwythur democrataidd Undeb y Myfyrwyr drwy'r amser a chynnal persona proffesiynol yn y gwaith ac ar gyfryngau cymdeithasol fel llysgennad yr Undeb.  
  • Sicrhau y caiff delwedd gadarnhaol o Undeb y Myfyrwyr ei chyflwyno, yn fewnol ac yn allanol, trwy ddangos safon uchel o broffesiynoldeb, parch, ymddygiad a gwasanaeth.  
  • Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hwn yn rhestr holl-gynhwysfawr, nid yw'n ffurfio unrhyw ran o gytundeb cyflogaeth a chaiff ei adolygu'n flynyddol.