Mynychwch Ffair y Glas 2026
Cyfle i gyrraedd myfyrwyr trwy ddod yn stondinwr yn Ffair y Glas

Cysylltwch â myfyrwyr - ydych chi'n bwriadu tyfu eich busnes, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a chynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand? Ystyriwch ddod yn stondinwr yn ein Ffeiriau’r Glas lle cewch gyfle i gysylltu â myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i PCyDDS.
Ar gyfer busnesau o bob maint - p'un a ydych chi'n fusnes newydd, yn fusnes cenedlaethol, neu'n elusen, mae dod yn stondinwr yn un o'r ffyrdd mwyaf fforddiadwy o gael eich sylwi gan fyfyrwyr - gallwch gysylltu â nhw wyneb-yn-wyneb mewn lleoliad bywiog, lle mae yna nifer fawr o ymwelwyr.
Prisiau ar gyfer pob cyllideb - mae ein pecynnau stondinwyr wedi'u prisio'n gystadleuol ar gyfer busnesau o bob maint, o fusnesau newydd i frandiau cenedlaethol. Ac os ydych chi'n fusnes bach neu'n elusen sydd wedi'i lleoli’n agor i un o'n campysau, byddwch chi'n derbyn cyfraddau gostyngedig arbennig.
Byddwn yn derbyn ymholiadau gan stondinwyr ar gyfer ein Ffair y Glas 2026 o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Ni yw cwblhau ffurflen ymholiad yn gwarantu lle - byddwn yn cadarnhau eich lle trwy e-bost.
Pam archebu stondin?
Dau Leoliad Prysur
Eleni rydym yn cynnal ffeiriau ar gyfer myfyrwyr newydd ar ein campysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe.
Ymgysylltiad Uniongyrchol â Myfyrwyr
Does dim byd yn curo dod i adnabod rhywun wyneb-yn-wyneb - cewch rannu eich stori, meithrin teyrngarwch a chael adborth ar unwaith gan ein cymuned myfyrwyr.
Pris Fforddiadwy
Mae ein pecynnau wedi'u prisio'n gystadleuol ar gyfer busnesau o bob maint, o fusnesau newydd i frandiau cenedlaethol.
Beth Sy'n Gwneud hyn yn Werth-chweil?
- Cyfle i gysylltu â channoedd o fyfyrwyr mewn un diwrnod
- Cyfle i hybu ymwybyddiaeth o'ch brand
- Cyfle i hyrwyddo gwasanaethau yn y fan a'r lle
- Adeiladu eich rhestr ohebiaeth a'ch dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol
- Cyfle i gysylltu â myfyrwyr PCyDDS
Awgrymiadau i Stondinwyr
P'un a ydych chi eisoes wedi archebu fel stondinwr neu'n ystyried cymryd rhan, rydym wedi llunio rhai awgrymiadau defnyddiol i wneud y gorau o'r diwrnod.
Pethau i ddod gyda chi
- Deunyddiau hyrwyddo (taflenni, posteri, cardiau busnes).
- Rhoddion a nwyddau am ddim (mae myfyrwyr wrth eu bodd â phethau defnyddiol am ddim!).
- Taflenni cofrestru neu dabled ar gyfer casglu manylion cyswllt.
- Lliain-bwrdd neu faner wedi'i brandio i wneud i'ch stondin sefyll allan.
- Ceblau estyniad a gwefrwyr os ydych chi'n defnyddio dyfeisiau electronig - nodwch na allwn warantu pŵer ar gyfer pob stondin.
- Dewch â lluniaeth gyda chi.
Byddwch yn barod i dynnu sylw
- Defnyddiwch liwiau beiddgar, arwyddion clir ac arddangosfeydd rhyngweithiol.
- Ystyriwch ddefnyddio baneri i wneud eich stondin yn weladwy o bell.
Byddwch yn gyfeillgar
- Cofiwch wenu a chyfarch y myfyrwyr wrth iddyn nhw gerdded heibio.
- Dylech osgoi eistedd y tu ôl i'ch bwrdd - sefwch ac ymgysylltwch.
Cynigiwch gymhellion
- Mae myfyrwyr wrth eu bodd â rhoddion am ddim - mae deunyddiau ysgrifennu â brand, bagiau tôt, byrbrydau, neu raffl lle gallwch ennill gwobrau’n gweithio'n dda.
- Os ydych chi'n casglu manylion cyswllt, cynigiwch gymhelliant (e.e. “Cofrestrwch am gyfle i ennill!”) - gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â GDPR.
Byddwch yn ddigidol, byddwch yn berthnasol
- Os ydych chi'n casglu cofrestriadau, defnyddiwch gôd QR ar gyfer dolenni cyfryngau cymdeithasol neu gofrestriadau ar gyfer rhestr ohebiaeth.
- Addaswch eich cyflwyniad i anghenion a diddordebau myfyrwyr.
- Amlygwch fuddion fel gostyngiadau, cyfleoedd gyrfa, neu ddigwyddiadau hwyliog.