Hysbyseb ar y Wefan

screenshot of website focusing on the advert

Ydych chi'n awyddus i gynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand ymysg myfyrwyr PCyDDS? Mae ein gwefan yn hyb digidol i fyfyrwyr ac mae hysbyseb yn ddull fforddiadwy o hyrwyddo eich busnes iddyn nhw.

Prisio

Hyd Pris Gostyngiad
1 Mis £100 -
2 Fis £180 Gostyngiad o 10%
3 Mis £255 Gostyngiad o 15%

Nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys TAW. Gostyngiadau ar gyfer archebion pecynnau. Mae 1 mis hyd at 31 diwrnod, 2 fis hyd at 62 diwrnod, 3 mis hyd at 93 diwrnod.


Beth sydd ei angen

Unwaith i chi archebu eich hysbyseb, bydd angen i chi anfon y canlynol atom:

  • Gwaith celf: ar ffurf JPEG, PNG, neu GIF, yn mesur 728px o led wrth 90px o uchder (tirlun) ac yn llai na 1MB o ran maint y ffeil
  • Dyddiadau: Y dyddiad a'r amser yr hoffech iddo ymddangos ar ein gwefan.
  • URL: Yr URL i glicio trwodd iddo (y cyfeiriad gwe rydych chi eisiau i'r faner gysylltu iddo).

Archebion ac Ymholiadau

Os ydych chi eisiau archebu hysbyseb ar ein gwefan neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Michelle Viccars: michelle.viccars@uwtsd.ac.uk.