👍 5 Ffordd o Helpu Eich Hun pan fydd y Canlyniadau’n cael eu Rhyddhau

Dydd Gwener 18-06-2021 - 10:19

Mae'r canlyniadau i mewn! Ymlaciwch eich ysgwyddau, gadewch i'ch tafod ddisgyn i ffwrdd o do eich ceg, ac anadlwch yn ddyfnach nag ydych chi wedi’n wneud trwy'r dydd. P'un a yw'ch canlyniadau'r hyn yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, neu efallai ddim yn hollol yr hyn yr oeddech chi'n gobeithio amdano, rydyn ni wedi llunio rhestr fer o ffyrdd y gallwch chi helpu eich hun pan fydd y Canlyniadau’n cael eu Rhyddhau.

 

1. Cynlluniwch ar gyfer Dathlu

Cyn gwirio'ch canlyniadau terfynol ar MyTSD, cynlluniwch ar gyfer dathlu wedyn beth bynnag fo'r canlyniad. Gwnewch baned o kombucha a gwyliwch un o’ch hoff ffilmiau. Beth am gael cinio rhithwir gyda ffrindiau a theulu? Ewch am dro i gasglu lliwiau Gwrandewch ar bodlediad ac ewch ati i ddwdlo. Dewch o hyd i weithgaredd sy'n gwneud i chi deimlo'n dda ac sy'n dathlu'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Mae gennych chi bob hawl i wobrwyo'ch hun!

 

2. Gwrandewch ar eich corff

Gwrandewch ar yr hyn sydd ei angen ar eich corff a gwnewch eich gorau i'w helpu. A oes angen gorffwys ar eich corff? Beth am roi cynnig ar fyfyrdod Nidra (edrychwch ar y ddolen hon i weld un o fy ffefrynnau ar gyfer ymlacio’n llwyr). Neu efallai eich bod chi'n teimlo fel cael gwared ar yr holl egni sydd wedi cronni yn eich system trwy gael sesiwn go dda yn y gampfa? Efallai ei fod mor syml â gwneud paned o de camomile, estyn am flanced glyd, a darllen llyfr da gyda'ch anifail anwes. Beth bynnag rydych chi’n ei ddewis, tiwniwch i mewn i'r hyn sydd ei angen ar eich corff ar hyn o bryd, ac yna caniatáu i'ch hun fwynhau’r profiad.

 

3. Estynnwch Allan

Peidiwch ag anghofio estyn allan at eraill am gymorth. Efallai y gallwch chi drefnu galwad Zoom gyda'ch teulu, cwrdd â ffrind am de mewn parc lleol, neu siarad â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi. Os ydych chi'n cael amser arbennig o anodd, efallai yr hoffech chi drefnu sesiwn gwnsela am ddim, neu ddod o hyd i gefnogaeth gan gymheiriaid ar Togetherall. Cymerwch yr amser hwn i ofalu am eich iechyd meddwl a chanolbwyntio ar gysylltu â phobl sy'n dod â llawenydd i chi. Rydych chi'n ei haeddu ar ôl yr holl waith caled rydych chi wedi'i wneud!

 

4. Gwnewch Rywbeth Rydych Chi'n ei Wneud yn Dda

Efallai nad yw eich canlyniadau’r hyn yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, ac mae'n iawn i chi deimlo ychydig yn ddigalon am hynny. Cofiwch nad ydyn nhw'n diffinio pwy ydych chi; dim ond cam bach yn y daith ar hyd eich llwybr gyrfa yw'r canlyniadau hyn. Gall gwneud rhywbeth rydych chi'n ei wneud yn dda godi eich calon, ac mae gwir angen hynny weithiau. Efallai eich bod wedi perffeithio sut i ddefnyddio colur llygaid (gallwch fy nysgu i wneud hyn!), neu efallai eich bod yn wych am chwarae pêl-droed, garddio, neu ganu. Dewiswch rywbeth sy'n rhoi hwb i'ch hyder, a mwynhewch y profiad!

 

5. Cymerwch Seibiant

Gall cymryd hoe a chaniatáu amser a lle i chi'ch hun brosesu'ch canlyniadau fod yn fuddiol dros ben. Neilltuwch beth amser i ymlacio ar ôl i chi ddarllen y sylwadau a'r adborth. Dewch yn ôl atynt ddiwrnod, neu hyd yn oed wythnos, yn ddiweddarach. Os nad yw pethau'n ymddangos yn iawn o hyd ar ôl cymryd peth amser i ffwrdd oddi wrthynt, gallwch gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr i archwilio'ch opsiynau ar gyfer gwneud Apêl Academaidd.

 

Ac yn olaf, cofiwch fod y ffaith eich bod chi wedi cwblhau'r flwyddyn academaidd yn gyflawniad anhygoel ynddo’i hun. Waeth beth yw eich canlyniadau, dylech fod yn falch iawn ohonoch eich hun. Rydych chi wedi cyrraedd pen y daith: da iawn chi!

Fel bob amser, os oes gennych chi unrhyw bryderon iechyd a llesiant, mae croeso i chi gysylltu â fi ar michaella.batten@uwtsd.ac.uk. Byddwn i wrth fy modd clywed gennych chi!

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...