Uniondeb Academaidd - A yw eich gwaith yn gymwys i'w gyflwyno?

Dydd Llun 19-10-2026 - 13:21

Gobeithio eich bod chi'n mwynhau'r tymor hyd yn hyn!    

Y llynedd, lansiodd Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr ein hymgyrch ‘yn Gymwys i’w Gyflwyno’ gan ganolbwyntio ar y ffordd orau o gynnig cymorth i chi yn y cyfnod cyn asesiadau. Ond mae'n ymwneud â mwy na dim ond cyflwyno'ch aseiniad – mae hefyd yn ymwneud â datblygu'ch gwybodaeth, eich hyder a'ch sgiliau academaidd.  

Eleni, rydym wedi lansio ein Pecyn Cymorth Uniondeb Academaidd. Wedi'i gynllunio â myfyrwyr mewn golwg o'r adborth a gawsom yn ogystal â thueddiadau a welsom mewn gwaith achos, mae'r pecyn cymorth hwn yn dwyn ynghyd ganllawiau ymarferol, awgrymiadau a chefnogaeth, a hynny i gyd mewn un lle. Mae'n egluro beth yw Uniondeb Academaidd, sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn gyfrifol, senarios bywyd go-iawn, ble i ddod o hyd i gefnogaeth, a beth yw eich hawliau os codir pryderon am eich gwaith.

Nid yw Camymddygiad Academaidd bob amser yn fwriadol. Weithiau mae'n digwydd oherwydd camddealltwriaeth, pwysau yn sgil dyddiad ar gyfer cyflwyno gwaith, neu ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddisgwylir gennych yn academaidd. Dyna pam rydyn ni wedi datblygu'r pecyn cymorth hwn – i'ch helpu chi i ddeall Uniondeb Academaidd ac i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n iawn i chi.   

Ynghyd â'r ymgyrch hon, fe wnaethon ni hefyd siarad â Jason Huxtable o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel rhan o'n cyfres Sgyrsiau gyda Chyngor i gael persbectif academydd ar Uniondeb Academaidd a sut mae AI wedi newid y sgwrs hon. 

Bydd ein cynghorwyr allan ar y campws i sgwrsio am y pecyn cymorth hwn, a sut y gall eich helpu ar eich taith yn y Drindod Dewi Sant.   

Birmingham:

Dydd Mawrth 27 Hydref: 11:30 - 14:30 - Quay Place, Ardal Gyffredin Myfyrwyr

Dydd Iau 29 Hydref: 11:30 - 14:30 - Quay Place, Ardal Gyffredin Myfyrwyr

Dydd Gwener 30 Hydref: 11:30 - 14:30 - Quay Place, Ardal Gyffredin Myfyrwyr

Llundain

dates and locations coming soon

Cymru

dates and locations coming soon

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...