Cyngor a Chefnogaeth yn ystod Gwyliau'r Gaeaf 2025

Dydd Mercher 10-12-2025 - 08:00
Article advice service update

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr ar gau o ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025 tan ddydd Llun 5 Ionawr 2026.

Ar ôl dychwelyd, bydd yr e-byst yn y mewnflwch hwn yn cael sylw cyn gynted â phosibl; fodd bynnag, gall hyn gymryd ychydig ddyddiau.

Mae’r Brifysgol ar gau o ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 tan ddydd Gwener 2 Ionawr 2026.


Sefyllfaoedd Argyfwng

Os ydych chi'n teimlo mewn perygl uniongyrchol gan berson arall, ceisiwch gymorth gan y gwasanaethau brys trwy alw 999.

Os ydych yn cysylltu â’r Undeb neu’r Brifysgol yn ystod y cyfnod y bydd y Brifysgol ar gau oherwydd eich bod yn credu eich bod chi (neu rywun arall) yn ddifrifol wael neu’n credu bod perygl uniongyrchol i chi (neu rywun arall) niweidio’ch hun neu eraill, ffoniwch 999.

I gael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch eich meddyg, esboniwch eich bod yn teimlo mewn perygl a gofynnwch am apwyntiad brys neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn eich ysbyty lleol.

Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch gael cymorth a chyngor iechyd meddwl drwy ffonio 111 dewis Opsiwn 2.


Mynediad at Gymorth yn ystod y cyfnod cau

Os ydych chi neu unrhyw fyfyriwr angen mynediad at gymorth ar gyfer iechyd, iechyd meddwl, a llesiant yn ystod y cyfnod hwn, yna ffoniwch Raglen Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol ar 0800 028 3766.

Mae’r Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr yn cael ei staffio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn gan broffesiynwyr hyfforddedig sy’n gallu cynnig cymorth i fyfyrwyr PCyDDS gydag amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bywyd myfyriwr gan gynnwys iechyd meddwl, straen a phryder, arian, cyflogaeth a thai. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu arweiniad cyfreithiol cychwynnol mewn amryw o feysydd. Gallwch ddarllen mwy am y Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr (RhCF) yma

Yn ystod y cyfnod y bydd y Brifysgol ar gau, RhCF yw'r llwybr sydd wedi’i sefydlu ar gyfer cyrchu cymorth ac arweiniad. Ni fydd ffurflenni ar gyfer datgan achos pryder, cais am gefnogaeth, a chais am fwrsariaeth y Brifysgol ar gael yn ystod y cyfnod cau, a byddant ar gael unwaith eto ar 5 Ionawr 2026.
 
Bydd Cymorth Dysgu, Gwasanaethau Hwb Myfyrwyr, a Chymorth Ariannol i Fyfyrwyr yn ailddechrau o Ionawr 5 2026, er y gall apwyntiadau unigol amrywio oherwydd ymrwymiadau gwyliau blynyddol staff ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae Tymor Academaidd y Brifysgol yn dechrau ddydd Llun 5 Ionawr 2026.
 
Rhwng 23 Rhagfyr 2025 a 5 Ionawr 2026 nid oes trefniadau i gymeradwyo ceisiadau am Amgylchiadau Esgusodol; bydd y rhain yn cael eu hystyried o'r 5 Ionawr, 2026.
 
Bydd myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau ar y campws sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol yn parhau i gael cymorth gan y Tîm Gweithrediadau ar y safle yn ystod y cyfnod hwn. Os ydych yn byw ar y campws, defnyddiwch y manylion sydd i’w gweld yma i gysylltu â'ch Tîm Gweithrediadau perthnasol ar gyfer unrhyw faterion cynnal a chadw neu fynediad.

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...