Dyma ble rydyn ni'n rhoi sylw i agwedd benodol ar fywyd myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant ac yn rhannu ein canfyddiadau â'r brifysgol.
Mae'r Adroddiad ar Ansawdd Academaidd, (AAA), yn adroddiad sy'n rhoi sylw i agwedd benodol ar fywyd myfyrwyr yn PCyDDS. Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr i gasglu eu hadborth a'u mewnwelediadau, gan ei roi mewn adroddiad a'i gyflwyno i'r brifysgol ynghyd â rhestr o argymhellion.

Dewisir thema'r adroddiad gan eich Llywyddion ac mae'n seiliedig ar adborth myfyrwyr. Ar gyfer adroddiad 2025/26, mae Gwyneira, Jen, a Rainna yn canolbwyntio ar y 'Gymuned Academaidd' yn PCyDDS.
Dyma eich profiad o ddydd i ddydd yn yr ystafell ddosbarth yn PCyDDS. Rydyn ni eisiau gwybod sut brofiadau a gawsoch, beth yw eich teimladau, beth rydych chi'n ei fwynhau, a beth hoffech chi ei weld yn newid i'w wneud cystal ag y gall fod.
Rydym yn casglu adborth myfyrwyr trwy ein harolwg myfyrwyr ar-lein, a byddwn yn cynnal grwpiau ffocws wyneb-yn-wyneb ac ar y campws. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy; does dim ots pa gwrs rydych chi'n ei astudio, p'un a ydych chi'n rhan-amser neu'n llawn-amser, yn mynychu’r campws neu'n ddysgwr o bell - rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Byddwn yn dangos ein canfyddiadau i'r Brifysgol - gan wneud argymhellion yn seiliedig ar eich mewnbwn, ac rydym yn anelu at sicrhau y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar eich profiad o fod yn fyfyriwr sy’n astudio yn PCyDDS.
Fel tîm Swyddogion Sabothol, rydyn ni’n cynrychioli ystod eang o gymunedau o fewn teulu ehangach PCyDDS. Mewn sgwrs â myfyrwyr, rydym am ddod i ddeall ac archwilio ymhellach arwyddocâd y gymuned academaidd fel rhan annatod o brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae pawb sy'n llenwi'r arolwg myfyrwyr yn helpu â llunio eu profiad myfyrwyr, a phrofiad myfyrwyr y dyfodol, er gwell. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn union@uwtsd.ac.uk.