Mae hi'n adeg honno o'r flwyddyn eto pan fydd y siopau'n rhedeg allan o nodiadau gludiog ac mae Moodle yn dechrau sleifio i mewn i'ch breuddwydion.... cyfnod asesu.
Mae gennym gynghorydd ar ein campws IQ a Dinefwr ddydd Mercher 6ed Mai 2026 i fyfyrwyr alw heibio i gael atebion i rai o’u hymholiadau asesu.
Os nad oes angen unrhyw gyngor arnoch chi, gallwch chi alw heibio beth bynnag i gael 'bag anrhegion' gyda sticeri i godi calon, melysion, te perlysiog a theganau i leddfu straen!
Er mwyn eich helpu i lywio’r don o asesiadau, rydym wedi rhestru rhai o’r Cwestiynau Cyffredin isod.
Os byddwch chi'n profi amgylchiadau y tu hwnt i'ch rheolaeth, fel afiechyd neu brofedigaeth deuluol, yn ystod cyfnod eich asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Amgylchiadau Esgusodol @ Undeb Myfyrwyr PCyDDS
Cewch, gallwch gyflwyno cyn y dyddiad cau swyddogol. Mewn gwirionedd, mae hyn yn aml yn cael ei argymell gan, os oes yna unrhyw broblemau technegol, fod hyn yn rhoi amser i chi gysylltu â rhywun i ddatrys y problemau hynny! Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi cwblhau'r holl ddosbarthiadau ar gyfer y modiwl hwnnw, fel nad ydych chi'n colli unrhyw wybodaeth hanfodol!
Unwaith y bydd eich canlyniadau wedi'u rhyddhau, byddwch yn gallu eu gweld nhw ar eich MyTSD. Cofiwch, dim ond marciau dros-dro yw'r canlyniadau a gyhoeddir ar Moodle, a gallant newid yn dilyn penderfyniadau'r bwrdd arholi. Chwiliwch am e-byst gan HWB Myfyrwyr neu Dîm Asesu eich campws i ddarganfod pryd y gallwch ddisgwyl eich canlyniadau swyddogol.
Yn anffodus, na allwch. Bydd apêl gan fyfyriwr sy'n cyflwyno apêl academaidd dim ond oherwydd ei fod yn teimlo y dylai fod wedi cael marc gwahanol yn cael ei gwrthod yn awtomatig. Gwyliwch allan am ragor o wybodaeth gan y tîm cynghori am apeliadau a dyfarniadau academaidd yn yr wythnosau nesaf!
Mae gan y brifysgol lawer o adnoddau iechyd meddwl ar gael i fyfyrwyr. Mae gan y brifysgol adran llesiant sydd â’r nod o gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod eu taith academaidd
Y ffordd orau o gysylltu â'r adran llesiant yw trwy lenwi ffurflen gais am gymorth
https://live.uniticms.com/uwtsd/register/
Cymorth Llesiant | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae'r Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr hefyd ar gael i fyfyrwyr ac mae'n cynnig llinell gymorth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ar 0800 028 3766.
Yn dibynnu ar ba gwrs rydych chi'n ei astudio, bydd disgwyl i chi ddefnyddio gwahanol fathau o gyfeirnodi.
Gallwch adolygu pob un o'r pedwar arddull cyfeirnodi a ddefnyddir mewn cyrsiau yn y brifysgol yma: Llawlyfrau Cyfeirnodi| Gwasanaethau Digidol | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Os ydych chi'n dal yn ansicr, gallwch chi archebu apwyntiad gyda llyfrgellydd a all eich helpu gyda phopeth yn ymwneud â chyfeirnodi, sut i osgoi llên-ladrad, sgiliau meddwl yn feirniadol a defnyddio adnoddau’r llyfrgell. Archebu Apwyntiad | Gwasanaethau Digidol | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Yn bendant! Mae Undeb y Myfyrwyr a'r brifysgol yn cydnabod y gall hyd yn oed yr un anabledd olygu heriau unigryw i ddau berson gwahanol sy'n ei brofi. P'un a ydych chi wedi cael diagnosis yn ddiweddar, heb gael diagnosis eto neu wedi bod yn ymdopi â'ch anabledd ers plentyndod, mae cymorth ar gael.
Ffurflen Ymholiad Anghenion Cymorth y brifysgol yw'r ffordd fwyaf cynhwysfawr o ofyn am gymorth ar gyfer anabledd gan y brifysgol.
Os byddai'n well gennych chi anfon e-bost at y tîm anabledd, gallwch gysylltu â nhw yn disability@uwtsd.ac.uk