Cyfle i ddod yn Fyfyriwr Ymddiriedolwr ar gyfer 2026/27

Dydd Mawrth 05-05-2026 - 11:00

Mae bod yn Ymddiriedolwr Elusen yn gyfle prin sy’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae’n edrych yn drawiadol iawn ar eich CV. Rydym yn chwilio am ddau fyfyriwr i ymuno â'n Bwrdd fel Myfyrwyr Ymddiriedolwyr rhwng Mehefin 2026 a Mehefin 2027, gan helpu i arwain a goruchwylio datblygiad a pherfformiad ein mudiad.

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn bodoli i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu fel y dylai, yn gofalu am ei adnoddau a’i bobl ac yn gweithio er budd myfyrwyr yn PCyDDS. Bydd y Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn ymuno â'n Bwrdd i helpu gydag arwain a llywio gwaith y mudiad, monitro ei berfformiad a'i gydymffurfiad cyfreithiol, yn ogystal â'i helpu i gynllunio'n effeithiol.
 

Ychydig amdanom ni

Rydym yn elusen annibynnol sy’n gweithio’n agos gyda’r brifysgol i wneud yn siŵr bod pethau’n cael eu gwneud er budd gorau ein haelodau. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn dîm o bobl fedrus sy’n darparu arweinyddiaeth, yn cyfrannu eu sgiliau, yn gwneud penderfyniadau lefel uchel, ac yn sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg yn gyfreithlon. Rydyn ni am i’n Bwrdd adlewyrchu amrywioldeb ein myfyrwyr – rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb yn PCyDDS – waeth ble neu sut rydych chi’n astudio.

Pam gwneud cais?

Bydd y Myfyrwyr Ymddiriedolwyr newydd yn dod â syniadau newydd a safbwyntiau ffres i'r Bwrdd; byddant hwythau’n derbyn hyfforddiant cynhwysfawr a byddant yn cael profiad gwych ar gyfer eu CV a chyfweliadau am swyddi yn y dyfodol.

Fel Ymddiriedolwr, bydd angen i chi fynychu o leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd a sawl cyfarfod o is-bwyllgorau yn ystod pob blwyddyn academaidd - gallwch fynychu rhai o'r rhain yn ddigidol. Os bydd angen i chi deithio i fod yn bresennol, byddwn yn talu costau teithio.

Sut i Ymgeisio

Mae gwneud cais yn hawdd - gwneir y cyfan trwy ein ffurflen gais ar-lein a yr dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 23:59 dydd Sul, 17 Mai 2026. Cofiwch, mae yna gyfrifoldebau cyfreithiol a gofynion cymhwysedd yn perthyn i fod yn Ymddiriedolwr – mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn y Pecyn Recriwtio Myfyrwyr Ymddiriedolwyr – gwnewch yn siŵr eich bod yn ei lawrlwytho a’i ddarllen.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...