Mae Undeb Myfyrwyr PCyDDS, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Brook yn falch o fod yn gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno cyfres o weminarau ar iechyd rhywiol. Y bartneriaeth hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru, ac rydym yn teimlo’n gyffrous o fod yn gallu rhoi'r cyfle hwn i fyfyrwyr. Dim ond y cam cyntaf yw'r gweminarau hyn! Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar fodiwl sydd ar gael i'r holl fyfyrwyr.
Cynhelir amrywiaeth o weminarau ar y canlynol: Cydsyniad a Pherthnasoedd Iach; (Secstio) Delweddu Rhywiol a Gynhyrchir gan Bobl Ifanc; Cyffuriau ac Alcohol; Amrywioldeb LHDT a Bwlio HBT; Pleser. Byddant yn cael eu hailadrodd trwy gydol y semester cyntaf; os byddant yn boblogaidd, byddwn yn cynnal mwy.
Y gwir amdani yw bod stigma cymdeithasol yn cyfyngu ar allu pobl ifanc i reoli eu hiechyd rhywiol, mwynhau perthnasoedd iach ac archwilio eu hunaniaeth.
Mae Brook wedi ymrwymo i newid agweddau, herio rhagfarnau a hyrwyddo cydraddoldeb fel y gall pob person ifanc fyw bywydau hapus ac iach.