Fyddwch chi ddim yn credu bod yna ar gyfartaledd 140 o ymgeiswyr ar gyfer pob swydd i raddedigion yn 2024 - dyna’r ffigurau gan y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr.
Mae’r Wythnos Sgiliau yn dod i Gaerfyrddin ym mis Mawrth i'ch helpu chi ddod yn un sy'n cael y swydd honno. Rydym yn cynnig hyfforddiant a gweithdai am ddim - mae'r sesiynau unigryw hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i baratoi ar gyfer gyrfa a threchu'r gystadleuaeth.
Mae'r dyddiau pan allai gradd yn unig sicrhau gyrfa i chi wedi mynd. Dyna pam y gwnaethon ni lansio’r Wythnos Sgiliau yn ôl yn 2022. Fe ddechreuon ni helpu myfyrwyr yn Llundain i gael hyfforddiant a pharatoi ar gyfer gyrfa. Ers hynny, rydym wedi ehangu'r rhaglen i Birmingham a Chaerdydd, gan hyfforddi cannoedd yn rhagor o fyfyrwyr. Ac yn awr rydyn ni’n dod â’r Wythnos Sgiliau i Gaerfyrddin.
Fyfyrwyr Caerfyrddin, nawr yw'r amser i fuddsoddi ynoch chi'ch hunain. Does dim ots pa flwyddyn rydych chi ynddi na'r cwrs rydych chi'n ei astudio - mae pob sesiwn Wythnos Sgiliau am ddim ac yn arbennig gyfer myfyrwyr PCyDDS. Byddwn yn eich helpu i feistroli'r pethau sylfaenol a mynd â'ch sgiliau i'r lefel nesaf - byddwch chi ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gystadleuaeth mewn dim o dro.
Ymunwch â’n gweithdai am ddim. Bydd yna weithdai ar gyfer siarad cyhoeddus, arweinyddiaeth, cael eich proffil LinkedIn i weithio i chi a rheoli amser, yn ogystal â sesiynau tynnu lluniau am ddim, a mwy. Edrychwch ar y rhestr, archebwch eich lle - byddwch yn ddiolchgar i chi’ch hun am y cyfle hwn yn y dyfodol.









Anfonwch e-bost atom yn su.opps@uwtsd.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.