Gan: Becky Ricketts, Llywydd Grŵp
Ar y cyd â thîm Llety'r Brifysgol, bu UMyDDS yn cynorthwyo â chasgliad banc bwyd ar gyfer Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghaerfyrddin, gyda'r nod o gasglu bwyd a phethau ymolchi i helpu teuluoedd yn ystod y chwe wythnos o wyliau, pan nad oes prydau ysgol am ddim ar gael i deuluoedd mewn angen.
Rwyf mor falch o ddweud bod nifer dda o’n myfyrwyr wedi cyflawni cryn lawer! Aethom ati i gasglu pethau sylfaenol fel tuniau o ffa a phacedi o basta i ddanteithion melys, nwyddau glanweithiol a hyd yn oed ŵy Pasg! Roedd dros bymtheg o fagiau a bocsys o roddion yn ddigon i lenwi bws-mini’r UM - roedd yn wych eu derbyn nhw yma yn swyddfa’r UM neu pan es i, Elis a Laura o amgylch y neuaddau i’w casglu. Cafodd y rhoddion eu storio'n ddiogel gyda'r nwyddau eraill a ddaeth i law yn barod i'w casglu pan oedd eu hangen yr wythnos hon.
Ar ôl eu danfon, cyfarfu'r tri ohonom â staff yn y banc bwyd, a oedd yn ddiolchgar dros ben am yr holl roddion, ac fe dreulion nhw ychydig o amser o’u diwrnod prysur yn sgwrsio â ni am yr anawsterau y mae'r gymuned leol yn eu hwynebu mewn cyfnod o galedi fel hwn. Roedd yn brofiad emosiynol sylweddoli bod y Banc Bwyd yn brysur iawn, ac yn amlwg yn achubiaeth i'r rhai sy'n byw mewn tlodi yma ar garreg ein drws yng Nghaerfyrddin.
Os ydych chi awydd gwirfoddoli a chefnogi'r banc bwyd wrth iddo ddarparu ar gyfer y gymuned leol, yna cysylltwch â ni yn Undeb y Myfyrwyr, a byddwn yn cysylltu â staff hyfryd y banc bwyd, a fydd yn fodlon iawn cael pâr ychwanegol o ddwylo i’w helpu.
Heb haelioni ein myfyrwyr, ni fyddai mentrau fel hyn yn cael yr un effaith yn y gymuned, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch hon. Rwy’n gobeithio y byddwn, ryw ddiwrnod, yn cyrraedd y pwynt lle nad oes bellach angen am fanciau bwyd ar unrhyw un yn ein cymdeithas, ond tan hynny drwy barhau i roi ein cefnogaeth iddynt, gallwn gynnig cymorth i'r bobl hynny pan fyddant fwyaf ei angen.