Yn Eisiau – Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yng Nghaerfyrddin

Dydd Gwener 04-09-2020 - 14:07

Rydyn ni’n chwilio am 2 fyfyriwr i ymuno â thîm yr UM fel Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21. 

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd - x1 swydd wag  

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru - x1 swydd wag 

 

Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn ased gwerthfawr a phwysig i fyfyrwyr, yr UM, a chymuned ehangach y Brifysgol. Maent yn gyfrifol am gydlynu â Chynrychiolwyr Cwrs a dynodi tueddiadau mewn adborth gan fyfyrwyr, a sianelu hyn ar lefel Athrofa i wneud newidiadau gwirioneddol, diriaethol. Mae ganddyn nhw blatfform i awgrymu syniadau a chodi pryderon gyda'r Brifysgol ar lefel uwch, ac felly maen nhw'n fecanwaith hanfodol ar gyfer cadw llais eich myfyrwyr wrth galon gwneud penderfyniadau'r Brifysgol. 

 

Os ydych chi'n fyfyriwr brwdfrydig a gweithgar, mae hwn yn gyfle perffaith i chi. 

 

Fel Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr, byddwch yn bwydo'n uniongyrchol i Fyrddau’r Athrofeydd, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Llywyddion y Campysau a Llywydd y Grŵp i sicrhau bod y Brifysgol bob amser yn ystyried mewnbwn myfyrwyr wrth wneud newidiadau sy'n effeithio arnoch chi. Nid yn unig y mae hwn yn gyfle i chwarae rhan weithredol mewn llunio'ch profiadau chi a rhai eich cyd-fyfyrwyr, byddwch hefyd yn dod yn aelod gwerthfawr o dîm yr UM. Byddwn yma i'ch cefnogi drwy gydol eich blwyddyn yn y rôl.  

Drwy gynnig eich hun ar gyfer y rôl hon, byddwch yn datblygu rhwydweithiau ehangach o fewn cymuned y Brifysgol, gan gwrdd â myfyrwyr a staff o gampysau eraill. Bydd hefyd o fudd i'ch datblygiad sgiliau o ran cyfathrebu, eiriolaeth a gwaith tîm, ymysg nodweddion eraill. Bydd y rôl yn ychwanegiad gwych i'ch CV er mwyn denu sylw cyflogwyr a sefydliadau yn y dyfodol. 

Dyma beth mae rhai o'n Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr blaenorol wedi'i ddweud: 

 

“Rwyf wedi mwynhau gallu cynrychioli fy nghyd-fyfyrwyr ar lefel uwch, er enghraifft bwrdd yr athrofa, a sicrhau bod eu lleisiau a’u hymholiadau’n cael eu clywed. Rwyf hefyd wedi mwynhau clywed am y gwahanol gyrsiau o fewn yr Athrofa hon a deall sut maen nhw i gyd yn gweithio o'u cynrychiolwyr cwrs, yn ogystal â bod mewn cysylltiad â Chynrychiolwyr Llais Myfyrwyr eraill o wahanol gampysau a gallu trafod sefyllfaoedd sy’n wahanol a’r rhai sy’n gyffredin ar draws campysau.” 

 

“Rwyf wedi mwynhau gallu chwarae mwy o ran wrth geisio helpu myfyrwyr, gan weithio gydag Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â gallu pleidleisio yng nghyfarfodydd mawr yr UM a mynychu’r cyfarfodydd hynny a dweud fy marn.” 

 

Os ydych chi'n fyfyriwr PCyDDS ac yn angerddol am wneud newidiadau cadarnhaol er budd cymuned y Brifysgol, rydym am glywed gennych chi. Rydym yn cynnig bwrsariaeth 3 rhan i'n Cynrychiolwyr (£150 y tymor; cyfanswm o £450 y flwyddyn) fel rhywbeth bach mewn cydnabyddiaeth o’ch gwaith caled a'ch ymroddiad i brofiad myfyrwyr PCyDDS. 

Mae profiad o fod yn Gynrychiolydd Cwrs yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol. Dydych chi ond yn gymwys i ddod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr ar gyfer yr Athrofa rydych chi'n perthyn iddi  Caiff Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr eu pennu drwy broses gyfweld, ac rydym yn bwriadu penodi tîm sydd ag amrywiaeth o ran profiad, ac sy’n astudio ar wahanol gampysau ac ar wahanol lefelau. 

 

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y cyfle hwn, e-bostiwch Ffion (ffion.davies@uwtsd.ac.uk). Yn eich cais, dylech amlinellu'r rhesymau pam eich bod chi am fod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr, ynghyd â rhai syniadau ar gyfer newidiadau yr hoffech eu gweld neu ddulliau y byddech yn eu defnyddio i wella ymgysylltiad â myfyrwyr. Yn eich cais, rhowch 'Rwyf am fod yn Gynrychiolydd Llais Myfyrwyr’ fel testun yr e-bost, a chofiwch roi gwybod i ni pa Athrofa rydych chi’n perthyn iddi.  

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...