Adeilad UM Caerfyrddin ar gau dros-dro

Dydd Mercher 21-01-2026 - 09:31
Carms su building temp closed blog

Bu rhaid i ni gau ein hadeilad yng Nghaerfyrddin dros-dro oherwydd problemau gyda’r system wresogi. Mae hyn yn golygu y bydd ein swyddfeydd, yn ogystal â’r Llofft a’r Clwb ar gau tan y gallwn ni eich hysbysu i’r gwrthwyneb.

Rydym yn gweithio gyda’r brifysgol i ddatrys y broblem, ond does gennym ni ddim amserlen ar gyfer hyn eto – byddwn yn rhannu’r datblygiadau diweddaraf â chi. 

Byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau ar gampws Caerfyrddin, ond mae’n bosib y bydd angen i ni newid y lleoliad, yn dibynnu ar sut mae pethau’n troi allan. Daliwch ati i gofrestru fel arfer, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw beth yn newid yn nes at yr amser. Am y diweddaraf ynghylch y digwyddiadau yn ein lleoliadau, gwiriwch ein Instagram ar @uwtsdunion.

IYn y cyfamser, byddwch yn dal i allu cysylltu â ni trwy e-bost yn union@uwtsd.ac.uk gallwch adael neges i ni ar neges i ni ar Instagram.

Categorïau:

Campus

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...