Etholiadau Pwyllgorau 2024

Dydd Mercher 03-04-2024 - 10:15

Ydych chi'n aelod o'n clybiau a chymdeithasau? - Mae Etholiadau Pwyllgorau ar agor nawr, a dyma'ch cyfle chi i ddewis y bobl fydd yn arwain eich grŵp ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. 

Mae dau gam i'r broses; enwebiadau - lle mae pobl yn cynnig eu hunain ar gyfer rôl arweinydd, a phleidleisio - lle rydych chi'n defnyddio'ch pleidlais i ddewis yr arweinwyr o blith rhestr o enwebeion.

Pam mae hyn yn bwysig? Mae pob un o'n grwpiau yn cael eu harwain gan fyfyrwyr, a gall arweinyddiaeth wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant - dyna pam ei bod yn bwysig i chi ddewis pobl angerddol a brwdfrydig i ymgymryd â’r rôl. 

Dyddiadau ac Amseroedd

Mae enwebiadau ar agor am 10:00 ddydd Mercher 3 Ebrill, ac maent yn cau am 15:00 ddydd Mercher 10 Ebrill.
Mae'r pleidleisio’n agor am 10:00 ar ddydd Llun 15 Ebrill ac yn cau am 15:00 ar ddydd Iau 18 Ebrill. 

Pwy all enwebu a phleidleisio? 

Mae angen i chi fod yn aelod cyfredol o’r grŵp yn ogystal â bod yn fyfyriwr cyfredol yn PCyDDS i enwebu a phleidleisio - ni chaiff aelodau cyswllt enwebu na phleidleisio mewn Etholiadau Pwyllgor.

Sut i enwebu a phleidleisio

  • I enwebu, ewch i'n gwefan, mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol
  • yna ewch i Cyfrif / Proffil a chliciwch ar Enwebiadau. 
  • Bydd pob etholiad yr ydych yn gymwys i sefyll ynddo’n ymddangos.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm Cyfleoedd Myfyrwyr yn suopportunities@uwtsd.ac.uk.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...