Dom Day: Diolch!

Dydd Mawrth 28-11-2017 - 12:12

 

Dom Day

 

Cynhaliwyd digwyddiad blynyddol Diwrnod Dom ddydd Sadwrn 18 Tachwedd yn LC Abertawe ac aeth rhoddion pawb a fynychodd at Cardiac Risk in the Young (CRY). Eleni, bu mwy na dim ond twrnamaint yn y digwyddiad hwn – bu adloniant gydol y dydd hefyd, gan gynnwys gwerthiant cacennau, raffl, DJ byw, stondin CRY oedd yn gwerthu nwyddau a chardiau Nadolig a gêm saethu pêl-fasged i blant.

Bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal fis Tachwedd bob blwyddyn er cof am Dominic Newton a fu farw o gyflwr heb ei ganfod yn ei galon yn Hydref 2016. Caiff y twrnamaint ei drefnu gan chwaraewyr o dîm pêl-fasged Tylluanod PCYDDS.

Cymerodd 8 tîm brwdfrydig ran yn y digwyddiad o ardaloedd cyfagos, fel Llambed a Baglan. Roedd hi hefyd yn braf cael staff o PCYDDS yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn ac yn cefnogi achos gwych. Yn ystod y dydd, cafodd tua 20 o gemau eu chwarae, llwyth o gacennau eu bwyta a mwy na 1000 o docynnau raffl eu gwerthu.

Cawsom ni gemau agos gydol y dydd, cyn i ni gyrraedd y gêm derfynol rhwng Tylluanod PCYDDS a Brenhinoedd Caerfyrddin. Brwydrodd y ddau dîm tan yr eiliad olaf. Llongyfarchiadau i'r enillwyr ac i bencampwyr Diwrnod Dom am yr ail dro – Tylluanod PCYDDS! Rhaid hefyd llongyfarch y ‘Tîm Mwyaf Heriol’ ar y diwrnod - Tîm POW!

Cafodd y ddau dîm hyn dlysau am eu hymdrechion ar y diwrnod – hoffen ni ddiolch i Valley Mill am roddi tlws pencampwyr Diwrnod Dom (wedi'i wneud o lechi!) a hoffen ni ddiolch hefyd i Dorian Heel Bar am roddi tlws ‘Tîm Mwyaf Heriol y Diwrnod’ a phêl-droed CPD Dinas Abertawe.

Roedd y digwyddiad hwn yn anhygoel, a llwyddom ni i godi dros £3000 unwaith eto. Mae ein cyfanswm at Cardiac Risk in the Young nawr dros £8500. Gobeithio gyda'r arian hwn, bydd modd i ni gael sesiwn sgrinio yn Abertawe i ganiatáu i fyfyrwyr ac i oedolion ifanc eraill yn ardal Abertawe gael eu sgrinio.

Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ar y diwrnod gan gynnwys teulu anhygoel Dom a ddaeth o Fryste i fod yno! Unwaith eto, hoffen ni ddiolch i LC Abertawe am bopeth maen nhw wedi'i wneud i helpu i gynnal y diwrnod mor ddidrafferth â phosib ac i'n caniatáu ni i ddefnyddio eu canolfan. Diolch yn fawr i bawb a wnaeth helpu i werthu tocynnau raffl, gwerthu/gwneud cacennau, gwerthu nwyddau a helpu i gynnal y digwyddiad!

Cafodd llawer o gacennau cwpan a phicau ar y maen eu rhoddi gan Tino's yn Abertawe hefyd – diolch yn fawr am y rhain, roedden nhw'n hyfryd! Diolch yn fawr hefyd i Lil London am gynnal ôl-barti Diwrnod Dom yno! Roedd y bwyd a'r lleoliad yn wych! Diolch yn fawr hefyd i Lil London am gynnal ôl-barti Diwrnod Dom yno! Roedd y bwyd a'r lleoliad yn wych!

I'r rheiny ohonoch chi sy'n darllen hyn ond sydd ddim yn gwybod rhyw lawer am waith Cardiac Risk in the Young, ewch i weld i fideo hwn:

 

 

Mae ein tudalen JustGiving yn fyw o hyd a dyw hi byth yn rhy hwyr i roddi arian felly cliciwch ar y ddolen hon i wneud hynny - www.justgiving.com/fundraising/dominicnewton 

Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant a hefyd i Cardiac Risk in the Young am yr holl waith caled rydych chi'n ei wneud i helpu oedolion ifanc!

 

Categorïau:

Student Wins

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...