Mae Gwyliau'r Pasg bron yma a rydyn ni wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ynghyd ar eich cyfer chi ynglŷn â chael cymorth dros yr ychydig wythnosau nesaf. Sut bynnag y byddwch chi'n dewis treulio'r gwyliau, rydyn ni'n gobeithio y cewch chi amser da.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu ar gapasiti llai yn ystod Gwyliau’r Pasg. Rydyn ni'n ar gau o 17:00 ddydd Iau, 28 Mawrth, tan 09:00 ddydd Mercher, 3 Ebrill.
Bydd ein Gwasanaeth Cynghori’n gweithredu ar gapasiti llai yn ystod gwyliau’r Pasg i ymdrin ag achosion brys, a gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb. Anfonwch e-bost atynt yn uniongyrchol ar unionadvice@uwtsd.ac.uk.
Bydd ein Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr gweithredu ar gapasiti llai yn ystod gwyliau’r Pasg i ymdrin ag achosion brys, a gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb. Anfonwch e-bost atynt yn uniongyrchol ar suopportunities@uwtsd.ac.uk.
Bydd ein Tîm Llais Myfyrwyr gweithredu ar gapasiti llai yn ystod gwyliau’r Pasg i ymdrin ag achosion brys, a gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb. Anfonwch e-bost atynt yn uniongyrchol ar studentvoice@uwtsd.ac.uk.
Gallwch gael gafael ar gymorth llesiant am ddim gyda'r Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr trwy ffonio 0800 028 3766 neu fynd ihttps://www.uwtsd.ac.uk/experience-facilities/student-support-wellbeing/wellbeing-support.
Mae ein holl swyddfeydd ar gau o 17:00 ddydd Iau, 28 Mawrth a byddant yn agor eto o 09:00 ddydd Mercher, 3 Ebrill.
Mae ein bariau i gyd ar gau - Old Bar a Xtension yn ailagor ddydd Mawrth, 9 Ebrill, a Y Clwb a Y Lofft yn ailagor ddydd mawrth, 16 Ebrill.
Os ydych chi'n cael problemau TG ac angen cefnogaeth, ffoniwch y Ddesg Gymorth TG ar 0300 500 5055.
HWB ar gau o ddydd Gwener, 29 Mawrth ac yn ailagor ddydd Mercher, 3 Ebrill.
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda'ch llety prifysgol, cysylltwch â'ch porthor ar y campws.