Canfod eich lle yn PCYDDS

Dydd Mercher 21-08-2024 - 16:21
Finding your place at uwtsd   blog thumbnail

Rydyn ni’n deall - mae mynd i’r brifysgol yn gam mawr, ble bynnag rydych chi arni mewn bywyd. Ac mae’n fwy na dysgu yn unig, dyma’ch cyfle i ddarganfod eich hun, rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud ffrindiau newydd  – ac rydyn ni yma i’ch helpu chi i ganfod eich lle yn PCYDDS.  
 

“Mae’r brifysgol yn gymaint mwy na chael gradd! Mae’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, yr atgofion rydych yn eu creu a’r newidiadau rydych chi’n mynd trwyddynt oll yn rhan o’r profiad. Chi sy’n penderfynu faint byddwch chi’n ei ennill o’r profiad yma felly ewch ati i roi cynnig ar bethau newydd" - Rhobyn Grant, Llywydd Campws Llambed


Un ffordd o ddechrau teimlo eich bod yn setlo ydy dod i nabod eich cydfyfyrwyr ar eich cwrs a’ch cydbreswylwyr yn eich fflat, a’r ffordd orau i wneud hynny ydy trwy sgwrsio â nhw. Cyflwynwch eich hun, siaradwch am y cwrs rydych yn ei astudio, a’ch diddordebau, a holwch am eu rhai hwythau hefyd.

"Efallai na fyddwch chi’n canfod eich cylch o ffrindiau ar unwaith, ond mae gennym gymuned ardderchog yn PCYDDS ac rwy’n gwbl sicr y byddwch chi’n canfod pobl sy’n rhannu rhai o’r un diddordebau â chi naill ai ar eich cwrs neu yn y digwyddiadau a’r gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal gan Undeb y Myfyrwyr…” - Natalie Beard, Llywydd Campws Abertawe


Mae cwrdd â phobl eraill sydd â diddordebau a phrofiadau tebyg yn ffordd wych o wneud ffrindiau. Mae ein clybiau a’n cymdeithasau i gyd yn cael eu cynnal gan fyfyrwyr, gyda grwpiau gwahanol ar bob campws. Fel myfyriwr, gallwch chi ymuno â chymaint ag y dymunwch neu hyd yn oed ddechrau rhai newydd. Ewch i’n gwefan i gael gweld beth sydd ar gael ar hyn o bryd neu dewch i gael gwybod mwy yn ein Ffeiriau Croeso.

Ac rydyn ni’n gwneud mwy na chynnal digwyddiadau Croeso swyddogol, rydyn ni’n cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, ledled pob campws. Maen nhw’n ffordd wych o roi cynnig ar rywbeth newydd, cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau.

Boed hynny drwy siarad â phobl newydd, drwy ymuno â grŵp newydd, neu drwy fynychu digwyddiad - y foment y byddwch chi’n camu allan o’ch cragen gysurus ydy’r foment y byddwch chi’n dechrau tyfu fel unigolyn. Rydym yn eich annog ar bob cyfrif i gydio yn y cyfleoedd sy’n dod i’ch rhan.

“Peidiwch â bod ofn camu allan o’ch cragen gysurus, dyna’r unig ffordd i dyfu a datblygu. Cofiwch, mae mwy iddi na’r graddau, mae’r profiadau a’r atgofion y byddwch yn eu creu ar y daith yn bwysig hefyd; mae hyn o fewn eich gafael!" - Maria Dinu, Llywydd y Grŵp

 

Categorïau:

Campus, Sabbatical Officers

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...