Ein huchafbwyntiau yw'r noson gerddoriaeth fyw gyda Vain Stamen 🎸 a'r cyfle i wisgo i fyny ar thema Disney 👑. Hefyd, mae gennym sesiynau crefftio, nosweithiau cwis, a nosweithiau meic agored. Mae yna lwyth o bethau i chi gymryd rhan ynddyn nhw yn ein bar a'n clwb myfyrwyr yng Nghaerfyrddin.
Noson Grefftau: Byrddau Hwyliau 2026Nos Lun 12 Ionawr, 20:00 yn Y Llofft
Ymunwch â ni am noson grefftau hamddenol lle gallwch ddylunio eich bwrdd hwyliau 2026 eich hun. Byddwch yn greadigol, gosodwch eich nodau, ac ewch ati i greu rhywbeth ysbrydoledig!
Cystadleuaeth PŵlNos Fercher 14 Ionawr, 20:00 yn Y Llofft
Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau? Ymunwch â ni am dwrnamaint pŵl hamddenol — mae’r hawl i frolio a naws dda ar gael!
Nos Gerddoriaeth Fyw gyda Vain Stamen Canslwyd: Nos Wener 16eg Ionawr, 21:00 yn Y Clwb
Ymunwch â ni am noson anhygoel o gerddoriaeth fyw wrth i Vain Stamen gamu i’r llwyfan — llais mawr, egni anhygoel, a noson na fyddwch chi eisiau ei cholli!
Noson Gemau a PheinNos Lun 19eg Ionawr, 20:00 yn Y Clwb
Bachwch beint a mwynhewch noson o gemau bwrdd, cardiau a chystadleuaeth gyfeillgar — y noson berffaith i ymlacio gyda ffrindiau!
Cwisiau Nos FercherNos Fercher 21ain a’r 28ain Ionawr, 20:00 yn Y Clwb
Profwch eich gwybodaeth bob nos Fercher — rowndiau hwyliog, awyrgylch gwych, a gwobrau i'w hennill. Dewch â’ch tîm ynghyd ac ewch ati i ateb cwestiynau!
Noson Meic AgoreNos Wener 23ain Ionawr, 20:00 yn Y Clwb
Cewch ganu, chwarae, perfformio — neu ddod i fwynhau doniau pobl eraill! Noson hamddenol lle gall unrhyw un neidio ar y meicroffon a disgleirio.
Noson Baentio a ChrefftauNos Lun 26ain Ionawr, 20:00 yn Y Clwb
Byddwch yn greadigol, ymlaciwch, ac ewch ati i greu rhywbeth unigryw — noson hwyliog, hamddenol o beintio a chrefftio, mewn awyrgylch da!
Noson Gwisgo i Fyny DisneyNos Wener 30ain Ionawr, 21:00 yn Y Clwb
Camwch i mewn i'r hud! Gwisgwch fel eich hoff gymeriad Disney ac ewch ati i ddawnsio drwy’r nos — gwobrau am y gwisgoedd gorau a’ch holl hoff ganeuon parti drwy’r nos!