Yr Wythnos Werdd

Dydd Llun 08-05-2023 - 15:25

Cynhaliwyd llwyth o weithdai a sgyrsiau ar eich cyfer chi er mwyn  rhannu cynghorion gwych a hintiau handi i'ch helpu chi i fyw bywyd mwy cynaliadwy.

Rhoddwyd sylw i bopeth o dyfu eich bwyd eich hun mewn mannau cyfyngedig, i gwtogi ar eich defnydd o blastig wrth gadw bwyd.

P'un a ydych chi'n hen law ar gynaladwyedd neu newydd ddechrau, roedd gan yr wythnos hon rhywbeth i bawb!
 

Gweithdai: 
Sgwrs a Phlannu Blodau - dydd Mawrth 2il Mai am 12pm

Ymunodd myfyrwyr â thîm Wythnos Werdd yn plannu planhigion ar Gampws Llambed gyda’r tîm llesiant. Rodd hwn yn gyfle gwych i ymlacio a chael seibiant o waith prifysgol tra'n helpu i wella’r amgylchedd yn Llambed.

Taith i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – dydd Mercher 3ydd Mai am 9am

Ymunodd yr Wythnos Werdd â Rhowch Gynnig Arni i fynd â chi ar daith i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; treuliodd myfyrwyr y diwrnod yn mwynhau'r natur odidog wrth gerdded drwy'r gerddi hardd.

Gweithdy Troelli - dydd Iau 4ydd Mai am 12.30pm

Mae gan wlân werth a gellir ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd cynaliadwy, nid yn unig yn y defnydd traddodiadol o decstilau ond hefyd mewn garddwriaeth, amaethyddiaeth ac adeiladu. 

Ymunodd myfyrwyr ag intern Tir Glas, Debby, i ddysgu sut i gardio gwlân yn barod i’w droi'n edafedd.  

Gweithdy Llifo - dydd Iau 4ydd Mai am 2.30pm

Nid oes angen prynu dillad newydd pan fyddwch yn gallu uwchgylchu'r hyn sydd gennych yn barod. Nid yw llifo gyda phlanhigion bob amser yn golygu defnyddio sylweddau gwenwynig fel alum sylffad. 

Ymunodd myfyrwyr â'n interniaid i ddysgu sut y gallwn lifo ystod o ddeunyddiau mewn ffordd ecogyfeillgar.

Gweithdy Perlysiau mewn Blwch Silff-ffenest - dydd Gwener 5ed Mai 11.30am

Pwy sy'n dweud bod angen gardd arnoch i dyfu eich bwyd eich hun? 

Nod y gweithdy hwn oedd yn edrych ar sut i dyfu bwyd mewn mannau trefol bach - o falconïau i silffoedd ffenestri.

Sgwrs am Fyd y Gwenyn Mêl Cymreig - dydd Gwener 5ed Mai 1pm

Oeddech chi'n gwybod bod gennym Wenynfa gyda gwenyn du Cymreig brodorol ar dir ein campws? 

Roedd hon yn sgwrs am fyd y wenynen Gymreig gan Selwyn Runnett a Peter Jenkins, aelodau BIBBA. Mae Peter Jenkins yn gofalu am ein gwenyn mewn ffordd gynaliadwy.  

Roedd y gweithdai hyn yn gyfle i ddysgu sut y gallwn fod ychydig yn fwy gwyrdd yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
 

Mae Interniaiad INSPIRE Mae Interniaiad INSPIRE yn brosiect ar y cyd rhwng myfyrwyr PCyDDS, Undeb y Myfyrwyr ac adran INSPIRE.  Dysgwch fwy yn at www.uwtsdunion.co.uk/inspire-interns.

Categorïau:

Campaigns & Projects, Sustainability

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...