Hintiau Handi Harriet ar gyfer Symud i'r Brifysgol

Dydd Mercher 16-09-2026 - 10:53
Harriets top tips blog 2

Gall dod i'r brifysgol fod yn adeg gyffrous iawn ac yn llawn profiadau newydd, yn enwedig os ydych chi'n symud i ardal anghyfarwydd. 

Mae Harriet, Llywydd Campws Caerfyrddin, wedi bod yn yr un sefyllfa â chi, ac mae hi wedi llunio rhestr o bethau yr oedd hi'n dymuno pe bai hi’n ymwybodol ohonyn nhw pan symudodd i Gaerfyrddin - bant â ni Harriet!

Bod yn ddarbodus â’ch arian

Nid arian am ddim yw eich benthyciad. Mae angen i chi ei ddefnyddio i dalu am eich llety a'ch bwyd, felly gwariwch yr arian yma’n ddoeth. Os ydych chi'n cael trafferth gweithio allan faint o arian sydd gennych chi i’w wario, gallwch fwrw golwg ar y wybodaeth a ddarperir yma gan ein Tîm Cynghori: https://www.uwtsdunion.co.uk/advice/finance. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn rhoi rhywfaint o arian o’r neilltu ar gyfer cyfnod y Glas cyn i chi ddechrau ym mis Medi. Mae'n demtasiwn ac yn hawdd iawn dihysbyddu'ch benthyciad myfyriwr i gyd yn ystod wythnos y Glas, yn enwedig os ydych chi'n mynd allan bob nos, felly arbedwch ychydig o arian a chadwch eich benthyciad o'r neilltu ar gyfer ffioedd llety a bwyd.

Mae Ffliw'r Glas yn beth go-iawn  

Byddwch yn ofalus, ar ôl cyfnod y Glas, mae siawns uchel y gallech fynd yn sâl oherwydd cymysgu â phobl newydd a.y.b., felly gwnewch yn siŵr eich bod gennych chi ddigon o hancesi papur, tabledi lladd-poen ac unrhyw beth arall y gallai fod ei angen arnoch i'ch helpu pan fyddwch yn sâl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffwyso digon, fel arall bydd yn cymryd mwy o amser i chi wella. Gellir recordio'r rhan fwyaf o ddarlithoedd neu fod modd i chi ymuno â nhw ar-lein, felly rhowch ddigon o rybudd i'ch darlithwyr. Hefyd, os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus gwneud hynny, rhowch wybod i ffrind neu gyd-letywr y gallwch ddibynnu arnyn nhw eich bod chi'n sâl fel y gallant wneud yn siŵr eich bod chi'n iawn.

Gwnewch i'ch Ystafell Deimlo'n Gartrefol 

Addurnwch eich ystafell i deimlo fel mae gartref. Dw i wrth fy modd ag unrhyw beth sydd â phatrwm blodeuog, felly mae gen i ddillad gwely blodeuog, posteri a.y.b. Mae gen i blanhigion ffug a goleuadau tylwyth-teg yn fy ystafell hefyd. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw addurniadau yn cydymffurfio â'r Llawlyfr Llety ac nad ydych chi'n gadael unrhyw farciau ar y waliau. Yn bersonol, rwy'n argymell defnyddio stribedi gludiog gan nad ydyn nhw'n gadael marciau ar y waliau os cânt eu tynnu i ffwrdd yn gywir. Os oes unrhyw beth yn aneglur, cysylltwch â thîm llety'r brifysgol yn accommodation@uwtsd.ac.uk Byddwn i'n argymell yn gryf gael top matres pwrpasol ar gyfer eich gwely. Mae matresi’r brifysgol fel arfer yn rai rhad, a dydyn nhw ddim y pethau mwyaf cyfforddus. Rwy'n gwybod y gallant fod yn eithaf drud, ond gallwch ei ystyried fel buddsoddiad, a gallwch ei ddefnyddio am y 3 blynedd lawn rydych chi yn y neuaddau, a hyd yn oed y tu hwnt i hynny!

Ceisiwch Beidio â Phacio Gormod 

Mae'n haws dweud na gwneud, ond oes wir angen 4 plât, bowlen a gwydr ar gyfer dim ond un person? Ceisiwch ddod â 2 o'r rhan fwyaf o eitemau cegin, oherwydd fel arall byddwch chi'n cael trafferth dod o hyd i le ar eu cyfer, gan eich bod chi'n rhannu cegin gyda 7-9 o bobl. Hefyd ar y nodyn hwnnw peidiwch â bod yn rhy farus gyda lle yn yr oergell a'r rhewgell. Y rheol gyffredinol yw cael 1 silff mewn oergell (neu 2 o rai llai) ac 1 silff yn y rhewgell. Unwaith y bydd pawb wedi symud i mewn, efallai y gallwch chi gael trafodaeth fel fflat ar beth i'w wneud â'r silffoedd sbâr fel bod gan bawb yr un faint o le!

Peidiwch â bod yn gyd-letywr blêr  

Dw i'n meddwl bod gan bob myfyriwr ar ei ail neu drydedd flwyddyn yma ryw fath o stori arswyd i'w hadrodd am gyd-letywr wirioneddol ffiaidd. Rwy’n gwybod bod gen i un! Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n golchi eich llestri. Fyddwn i ddim yn gadael llestri am fwy na 2 awr heb eu golchi, oni bai eich bod chi'n rhoi gwybod i'ch cyd-letywyr pryd y byddwch chi'n mynd ati fel y gallant eich dwyn i gyfrif. 

Rydym yn deall bod pobl weithiau ar frys i wneud rhywbeth, ond byddwch yn gwrtais a dywedwch wrthyn nhw pam. Neu fel arall, os ydych chi'n meddwl y bydd golchi llestri yn broblem i chi'n rheolaidd neu os oes angen i chi adael i bethau socian, yna prynwch fowlen golchi llestri a gadewch i'ch llestri socian yn honno. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael hon yn eich ystafell yn hytrach nag yn y gegin lle bydd yn cymryd lle ar y cownter. 

Hefyd gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau ar eich ôl os ydych chi'n gwneud llanast; glanhewch y gegin yn rheolaidd (o leiaf unwaith yr wythnos i gadw'r lle yn lân), a gwagiwch y biniau'n rheolaidd fel nad ydyn nhw'n gorlifo. Mae bob amser yn syniad da bod â rota ar gyfer gwagio biniau, fel bod pobl yn dod i arfer, ond hefyd er mwyn i chi allu olrhain pwy sy'n cymryd eu tro i’w gwagio, a phwy sydd ddim. 

Yn olaf, mwynhewch!

Efallai mai dyma'r un pwysicaf; mae'n debyg mai dyma fydd yr unig amser yn eich bywyd pryd byddwch chi'n byw i ffwrdd o gartref, a does gennych chi ddim llawer o gyfrifoldeb (dim ond talu am eich llety a'ch bwyd sydd angen i chi boeni amdano mewn gwirionedd) felly manteisiwch i'r eithaf ar y rhyddid hwn a mwynhewch eich hun (ond byddwch yn synhwyrol)

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...