Daeth Sophie, ein Rheolwr Cynghori, Jennifer, Llywydd Caerfyrddin, a Caitlin o Shelter Cymru at ei gilydd i siarad am y gwahanol heriau y gall myfyrwyr eu hwynebu o ran tai, a'r gefnogaeth sydd ar gael, a gynigir trwy Shelter Cymru.
Mae Jennifer wedi bod allan yn siarad â myfyrwyr am yr heriau y gallent fod yn eu hwynebu o ran tai. Mae'r tîm cynghori hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau sy'n ymwneud â thai. Mae'r heriau'n cynnwys:
Mae Shelter Cymru yn elusen sy'n cynnig cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim, yn benodol o amgylch tai a digartrefedd. Mae ystod eang o gyngor y gall Shelter Cymru ei ddarparu gan gynnwys cyngor ynghylch ôl-ddyledion rhent, diffyg atgyweirio, llygod a lleithder, aflonyddu gan landlordiaid, a chael eich troi allan o’ch cartref. Gall Shelter Cymru hefyd gynnig cyngor ynghylch digartrefedd a stigma tlodi.
Y cam cyntaf fyddai siarad â'ch landlord. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi gwybod am unrhyw broblemau atgyweirio, a cheisiwch gael sgwrs gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw ar sut i symud ymlaen. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, y cam nesaf fyddai cysylltu â Shelter Cymru i gael rhagor o gyngor.
I rai myfyrwyr, gall llywio'r materion hyn fod yn wirioneddol heriol. Mae rhai myfyrwyr yn poeni y gallai codi’r materion hyn effeithio ar eu perthynas â'r landlord, neu effeithio ar eu contract. Yn aml, mae myfyrwyr yn poeni mwy lle mae problemau'n gysylltiedig ag arian oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd ynghylch estyn allan am gymorth. Mae'n gwbl normal estyn allan ac nid yw'n sefyllfa y dylai unrhyw un fod yn poeni, nac yn teimlo cywilydd amdani. Mae gwasanaeth Shelter Cymru yn gwbl gyfrinachol, a dim ond pan ofynnir am hynny y maen nhw'n siarad â landlordiaid. Bydd estyn allan yn eich helpu i ddatrys y sefyllfa. Os ydych chi’n dewis peidio ag estyn allan, does dim byd yn mynd i gael ei ddatrys.
Mae gwasanaeth Shelter Cymru yn ymwneud yn gyfangwbl â chyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ynghylch tai a digartrefedd. Mae ganddyn nhw linell-gymorth lle gall gweithwyr achos roi cyngor cychwynnol ynghylch eich hawliau cyfreithiol a'r camau i'w cymryd i ddatrys problemau. Os yw problem yn fwy dyrys, byddwn yn trefnu apwyntiad i chi gyda gweithiwr achos a fydd yn rhoi cyngor cyfreithiol manwl i chi am eich hawliau a beth i'w wneud i ddatrys y broblem. Yna bydd Shelter Cymru yn eich cynghori ynghylch datrys unrhyw broblemau, a bydd yn cymryd camau perthnasol.
Os nad ydych chi'n siŵr a oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â su.advice@uwtsd.ac.uk am gyngor ac arweiniad annibynnol, cyfrinachol, am ddim. Os yw problemau tai yn effeithio ar eich astudiaethau, gallwn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol o fewn y Brifysgol.