Sut i: Tŷ Louisa, Peiriannau Gwerthu Birmingham

Dydd Iau 28-03-2024 - 11:26

Mae peiriannau gwerthu newydd wedi'u gosod gan y Brifysgol, sydd wedi'u lleoli yng nghegin y myfyrwyr yn Nhŷ Louisa. Mae'r peiriannau gwerthu hyn yn wahanol i'ch rhai traddodiadol, felly mae Llywydd y Grŵp, Taya Gibbons yma i ddangos i chi pa mor hawdd a chyfleus yw'r peiriannau newydd!

 

 

Cam 1:

Cliciwch y botwm pori i weld yr eitemau a'u prisiau.

 

Cam 2:

Yna cliciwch ar y botwm "Tap" sy'n actifadu'r darllenydd cerdyn. Tapiwch neu rhowch eich cerdyn ar y darllenydd a bydd y peiriant yn cymryd £5 oddi ar eich cerdyn rhag-awdurdodedig. Mae hyn i wirio a oes gennych chi'r arian i brynu'r hyn rydych chi ei eisiau. Peidiwch â phoeni! Bydd yn ad-dalu'r gwahaniaeth i chi am eich eitemau.

 

Cam 3:

Pan fydd eich cerdyn wedi’i derbyn, bydd y drysau'n datgloi. Yna gallwch ddewis pa eitemau yr hoffech eu prynu! Bydd pris yr eitem(au) a gymerwch yn ymddangos ar y sgrin.

 

Cam 4:

Pan fyddwch chi'n hapus â'ch pryniant, RHAID i chi gau'r drysau i gloi'r peiriant eto. Yna caiff eich cerdyn ei ryddhau o'r peiriant. Os na fyddwch chi'n cau'r drws yn iawn, gall pobl gymryd eitemau a chodir tâl ar eich cerdyn.

 

Cam 5:

Cliciwch "Pay" ar waelod ochr dde'r sgrin ac mae'n rhoi'r opsiwn i chi gael derbynneb trwy e-bost. Bydd eich pryniant wedi'i gwblhau!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...