Sut i gefnogi ffrindiau a chyd-fyfyrwyr yn ystod Ramadan

Dydd Iau 04-04-2024 - 14:00
Supporting friends during ramadan

Ramadan Mubarak i'n holl aelodau sy’n cadw at Ramadan.

Os nad ydych chi'n cadw at Ramadan, efallai y bydd yna gyd-fyfyrwyr yn astudio gyda chi sy’n gwneud hynny.

Beth yw Ramadan?

Ramadan yw nawfed mis calendr lleuad Hijri (Islamaidd); yn ystod yr amser hwn bydd llawer o Fwslimiaid yn ymprydio yn ystod y dydd (rhwng y wawr a'r cyfnos), sy'n golygu na fyddant yn bwyta nac yn yfed (hyd yn oed dŵr) yn ystod yr oriau hyn. 

Byddant fel arfer yn bwyta brecwast cyn i'r haul godi ac yn torri eu hympryd gyda swper ar ôl i'r haul fachlud. 

Bydd Ramadan yn para mis (cychwynnodd Ramadan ar 10fed Mawrth) ac mae hyn yn golygu bod rhai pethau y dylech eu hystyried i gefnogi'ch ffrindiau a'ch cyd-fyfyrwyr yn ystod Ramadan eleni ac yn y dyfodol.

Cadwch mewn cysylltiad 

Gwiriwch gyda’ch ffrindiau a’ch cyd-fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw, peidiwch â’u gadael allan o gynlluniau – sy’n arwain at y pwynt nesaf…

Byddwch yn hyblyg gyda chynlluniau 

Os ydych chi'n trefnu cyfarfod â ffrindiau, a oes angen iddo fod ar gyfer cinio? Neu am goffi? A allai fod yn rhywbeth heb fwyd neu ddiod, fel taith gerdded neu sesiwn gemau bwrdd? Neu a allai fod yn hwyrach yn y nos pan fydd eu hympryd wedi dod i ben? Mae'r rhain yn bethau bach i'w hystyried a'u newid i fod yn fwy ystyriol o'r rhai sy'n ymprydio.

Holwch eich ffrindiau

Mae pawb yn wahanol ac eisiau/angen pethau gwahanol gan ffrindiau – gallwch ofyn i’ch ffrindiau sut gallwch chi helpu i’w cefnogi.

Cofiwch fod pobl yn cadw at Ramadan mewn gwahanol ffyrdd 

Mae sawl rheswm pam nad yw rhai Mwslimiaid yn ymprydio yn ystod Ramadan a gall y rhain fod yn bersonol iawn; peidiwch â gofyn pam nad yw rhywun yn ymprydio, a pharchwch ffordd pob unigolyn o gadw at Ramadan.

Darganfyddwch fwy am Ramadan 

mae digon o wybodaeth ac adnoddau am Ramadan a’i bwysigrwydd i Fwslimiaid ledled y byd – peidiwch â bod ofn darllen mwy am yr arferiad, darganfyddwch beth yw ei ddiben a dysgwch ar hyd y ffordd. 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...