Cyflwyno eich Cynrychiolwyr UM!

Dydd Iau 04-04-2024 - 10:30

Dywedwch helo wrth Javorne, Shalom, Ed and Dru – y wynebau cyfeillgar hyn yw eich Cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr (Cynrychiolwyr UM) ar Gampws Llambed, ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed i’n helpu i wneud eich profiad ar y campws y gorau y gall fod. 

  • Javorne one of the SU Reps
  • Shalom one of the SU Reps
  • Ed one of the SU Reps
  • Dru one of the SU Reps

Beth yw Cynrychiolwyr UM? 

Cynrychiolwyr UM yw’r ddolen rhwng ein Myfyrwyr ar gampws Llambed, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol; maen nhw’n cyfarfod i sgwrsio gyda chi ac yn trosglwyddo unrhyw bwyntiau rydych chi am eu codi. 

“Mae bod yn Gynrychiolydd UM yn gyfle gwych i sicrhau bod myfyrwyr eraill yn cael eu barn wedi’i chlywed”

– Shalom, Cynrychiolydd UM

Beth maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn? 

Hyd yn hyn mae Cynrychiolwyr UM wedi bod yn brysur yn gweithio ar gasglu eich barn, adborth a cheisiadau a chyflwyno’r rhain mewn cyfarfodydd gydag Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, ac yn y pen draw helpu i wneud newidiadau i wella eich profiad prifysgol. 

Cynhaliwyd sesiynau galw-heibio, cyfarfodydd gyda Gwilym Dyfri Jones (Profost Caerfyrddin a Llambed), yn ogystal â chynllunio digwyddiadau – i gynnig mwy o brofiadau i chi ar y campws. 

Efallai eich bod wedi gweld neu ymuno â ni ar ein teithiau anhygoel i’r Gelli Gandryll neu Aberystwyth, neu hyd yn oed wedi aros y campws ar gyfer ein nosweithiau ffilm - mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn boblogaidd iawn ar y campws, gyda'n teithiau’n gwerthu allan a myfyrwyr yn dod at ei gilydd i fwynhau bywyd ar y campws. 

Mae wedi bod yn wych gweld yr effaith anhygoel y mae ein Cynrychiolwyr UM wedi’i chael. Mae Dru (Cynrychiolydd UM) hyd yn oed wedi gallu rhannu ei syniadau a’i phrofiadau gydag aelodau o Undebau Myfyrwyr eraill yng Nghynhadledd UCM Cymru – a dysgu llawer gan eraill yno hefyd.
 

Beth allwn ni edrych ymlaen ato?

Mae eu gwaith yn parhau, gan ddefnyddio eich adborth, eich lleisiau a gwneud y newidiadau rydych chi am eu gweld.

“Mae'n werth chweil bod yn gallu gwneud newid a gwireddu’r hyn y mae myfyrwyr ei eisiau”

– Shalom, Cynrychiolydd UM

Ac ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, cadwch mewn cysylltiad; rydyn ni wrthi’n cynllunio mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau i chi ar y campws.

Dinbych-y-pysgod - 20fed Ebrill 

Ydych chi'n barod am antur? Gallwch chi ymuno â'ch Cynrychiolwyr UM ar daith i'r dref harbwr hardd - Dinbych-y-pysgod.

Mae’r strydoedd coblog yn llawn bwytai, caffis, siopau teisennau a fferins lleol, i gyd eiliadau i ffwrdd o’u traethau arobryn – a gallwch dreulio’r diwrnod yn gwneud yr hyn a fynnwch!

Byddwn yn uwchlwytho'r digwyddiad ar ein gwefan yn fuan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd ar y gweill. 

Bwcio Nawr


 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...