Ymgyrch Hygyrchedd Llambed

Dydd Mercher 25-11-2020 - 10:42

Helo bawb! Rwy’n falch iawn o gyhoeddi lansiad fy ymgyrch hygyrchedd ar gyfer campws Llambed. Rwyf wedi cydweithio ag Emily, ein Swyddog Myfyrwyr Anabl Rhan-amser ar gyfer Campws Llambed, i greu ymgyrch sy'n caniatáu i'ch lleisiau gael eu clywed! 

Nod yr ymgyrch hon yw nodi'r anawsterau sy'n ein hwynebu yn Llambed o ran hygyrchedd corfforol y campws, o’r ystafelloedd darlithio a gaiff eu dyrannu, i bryderon ynghylch gorlwytho synhwyraidd fel gwresogi a goleuo, i barcio! Ein hamcan yw defnyddio'r data hwn i gyflwyno cynnig i'r brifysgol sy'n ymwneud â meysydd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw i wella profiad myfyrwyr yn Llambed.

Rydym yn cynnal cyfnod ymgynghori o bythefnos sy'n cynnwys tair elfen:

  • Y gyntaf yw arolwg ar draws y campws a gaiff ei lansio ar 30ain Tachwedd, ac a fydd yn agored am bythefnos. Mae'r arolwg yn ymdrin â phob elfen o hygyrchedd, ond os ydyn ni wedi methu rhywbeth…
  • Yn ystod ail wythnos yr arolwg (7fed-14eg Rhagfyr), byddwn yn cynnig cyfarfodydd ymgynghori dros MS Teams! Dyma'ch cyfle i siarad â ni'n uniongyrchol ynghylch unrhyw faterion rydyn ni wedi’u methu, neu bethau rydych chi am eu trafod ymhellach!

Bydd Emily’n rhannu adnoddau i’ch cyfeirio at y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael yn y brifysgol ac yn allanol trwy gydol ein hymgyrch.

Rydym wedi gweithio'n anhygoel o galed gyda'r brifysgol i roi sylw i’r holl elfennau pwysig hyn, ac rydym yn gobeithio eich gweld chi'n cymryd rhan mewn gwella ein campws!

Diolch! Tammy.

 

Llenwch yr arolwg hwn os gwelwch yn dda, a rhannwch e gyda'ch ffrindiau

Arolwg Hygyrchedd Campws Llambed

 


Ymgynghoriad Hygyrchedd Campws Llambed

 

Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 

2 pm - 3:30 pm

Archebwch Nawr

 

Dydd Mercher 9 Rhagfyr

12 pm - 1:30 pm

Archebwch Nawr

 

Dydd Gwener 11 Rhagfyr

1 pm - 2 pm 

Archebwch Nawr

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...