Dydd Mawrth 03-12-2024 - 16:15
Yr hyn a wyddom
- Mae'r Brifysgol yn ystyried bod angen 1,250 o fyfyrwyr ar y campws i fod yn hyfyw; mae gan Lambed 92 o fyfyrwyr y dyniaethau ar y campws.
- Cafwyd eglurder ynghylch niferoedd y myfyrwyr ar y safle ym mis Hydref, yn dilyn y broses Glirio. Aeth y Brifysgol ati i greu cynllun gweithredu ar gyfer y cynnig ar y sail honno. Nid oedd y Brifysgol wedi bod yn cynllunio hyn ers amser maith, yn hytrach, mae'n ymateb i'r wybodaeth sydd ar gael iddi erbyn hyn.
- Bydd Llywydd Campws Llambed yn cyfarfod yn wythnosol â’r tîm sy’n arwain y cynnig.
- Yn ystod y pythefnos nesaf, bydd y Brifysgol yn dechrau trefnu ar gyfer rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd o amgylch campws Caerfyrddin; bwriedir cynnal hyn ddydd Mercher 18fed Rhagfyr. Rydym yn annog unrhyw un sy’n gallu mynd ar y daith hon i wneud hynny er mwyn profi campws Caerfyrddin drostynt eu hunain.
- Nid yw’n bosib i fyfyrwyr gwblhau eu graddau ar safle Llambed oherwydd; iechyd a diogelwch, profiad dysgu’r myfyrwyr, ac ansawdd academaidd y rhaglenni.
- Mae asesiad effaith llawn ar y gweill i sicrhau bod holl effeithiau’r symudiad arfaethedig yn cael eu deall (h.y. asesiad effaith cydraddoldeb, yn ogystal ag effeithiau ar y Gymraeg a llawer mwy)
- A full impact assessment is underway to ensure all impacts are understood with the proposed move (i.e. equality impact assessment as well as impacts upon Welsh Language and much more)
- Os yw'r symudiad yn mynd i ddigwydd, yna bydd Gwasanaethau Myfyrwyr yn gweithio i gynorthwyo cyflogadwyedd myfyrwyr trwy greu ffeiriau swyddi. Nododd y Brifysgol hefyd fod cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar y campws i'r Brifysgol a bod y fframwaith bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr. (www.uwtsd.ac.uk/applying-finance/fees-finance/undergraduate-funding-support)
- O ran llety: gall y Brifysgol sicrhau ystafelloedd ar gyfer yr holl fyfyrwyr a fyddai'n symud. O ystyried niferoedd presennol y myfyrwyr, nid oes unrhyw bryderon nad oes yna ddigon o ystafelloedd i bawb.
- Lle mae myfyrwyr wedi dweud na allant deithio neu symud i Gaerfyrddin, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ganfod datrysiad sydd wedi'i deilwra ar gyfer y myfyrwyr hyn.
- Mae grŵp ar wahân sy’n cynnwys Quentin Drew, Rod Bale, Martin Bates, Thomas Jansen a Jeremy Smith wedi'i greu i adolygu gofynion unrhyw symudiad o ran darpariaeth y Labordai Archeoleg. Mae'r grŵp hwn yn cydlynu'n agos â'r tîm Ystadau a Chyfleusterau.
- Yn ystod y pythefnos nesaf bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â myfyrwyr ynghylch pryd y bydd Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Brifysgol yn cyfarfod i drafod y cynnig. Bydd Llywydd Campws Llambed yn mynychu'r cyfarfod hwn.
- Mae cyfarfod arall ar gyfer myfyrwyr i’w gynnal ddydd Mercher 4ydd Rhagfyr yn yr Hen Neuadd o 2:30pm tan 3:30pm (Dyma ailadrodd y sesiwn a gynhaliwyd ddydd Gwener 29ain Tachwedd, gan nad oedd pawb yn gallu bod yn bresennol)
Pryd, Ble, Sut...
Fel rhan o’r sgwrs barhaus yn ymwneud â phryd, ble, a sut
Mae’r Brifysgol wedi rhannu rhai o’r camau rhagweithiol y maent wedi’u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i helpu â chynyddu nifer yr ymgeiswyr i Lambed.
- Newidiadau cwricwlaidd i fod yn ddeinamig (gan ystyried y sector Addysg Uwch yn ei gyfanrwydd, y sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion, a datblygiad y ddisgyblaeth academaidd).
- Prif Gyrsiau / Cyrsiau Ategol (fel Prifysgolion America) gyda rhaglenni fel Dyniaethau Digidol, Astudiaethau Treftadaeth, Astudiaethau Addysg, sy’n cynnig pwynt gwerthu unigryw.
- Cyflwyno system addysgu fesul bloc; PCyDDS oedd un o’r Prifysgolion cyntaf yn y DU i gyflwyno addysgu fesul bloc.
- Mae rhaglenni Sinoleg yn rhan o gymuned Llambed.
Mae'r Brifysgol wedi ateb ein cwestiynau, gallwch ddod o hyd i'w hatebion yma (www.uwtsdunion.co.uk/articles/university-answers-our-questions). Diolch i’r Brifysgol am gymryd yr amser i ddarparu atebion ystyriol.
Rydym yn sylweddoli bod angen i'r Brifysgol wneud penderfyniad ar sail y wybodaeth sydd o'u blaenau. Rydym yn sylweddoli bod gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn deall pwy yw Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Brifysgol; rydym wedi gofyn i'r Brifysgol gyhoeddi enwau ei UDA. Fel y nodwyd uchod, bydd Rhobyn, Llywydd Campws Llambed, yn mynychu'r cyfarfod ym mis Ionawr.
Categorïau:
Future of Lampeter, Sabbatical Officers
Tagiau perthnasol :
Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant