Mae diwedd y flwyddyn academaidd yn agosáu'n gyflym, sy'n golygu ei bod hi'n amser ar gyfer ein rownd olaf o Gynghorau Campws ar gyfer y flwyddyn hon!
Mae Cynghorau Campws yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am yr hyn y mae eich llywyddion wedi'i gyflawni, a'r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud o amgylch y campws. Byddwn yn trafod beth mae eich Swyddogion Rhan-amser wedi bod yn ei wneud ar draws eich campws, gan roi cyfle i chi ddysgu mwy am gymuned eich campws. Mae Cynghorau Campws hefyd yn gyfle gwych i chi ddod ag unrhyw gwestiynau, pryderon neu geisiadau i sylw Undeb y Myfyrwyr. Os ydych chi eisiau codi unrhyw beth neu ofyn cwestiynau i'ch llywydd am eu hymgyrchoedd, galwch heibio i sgwrsio â ni yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb ar y diwedd.
Mae Cynghorau Campws yn gam pwysig wrth sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn parhau i fod yn atebol i'r myfyrwyr y mae'n eu cynrychioli. Mae Cynghorau Campws yn gyfle i fyfyrwyr siarad â'u cynrychiolwyr myfyrwyr a'u dwyn i gyfrif am weithredu’r hyn sydd yn eu maniffestos. Fe gewch chi well syniad o'r hyn mae eich cynrychiolwyr yn ei wneud o ran eirioli dros gorff y myfyrwyr, y prosiectau maen nhw'n gweithio arnyn nhw, a'r cynnydd maen nhw wedi'i wneud. Mae Cynghorau Campws hefyd yn gyfle i fyfyrwyr gyflwyno syniadau i'r cyngor. Yno, fe gynhelir pleidlais arnyn nhw a'u symud ymlaen i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol os ydyn nhw'n llwyddiannus.
Bydd yr agenda’n cael ei chyhoeddi cyn Cyngor y Campws. Bydd yr agenda’n cynnwys manylion yr hyn fydd yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod. Yn ystod y cyngor, bydd Llywydd eich Campws, Swyddogion Rhan-Amser, a Chynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y math o bethau maen nhw wedi bod yn gweithio arnyn nhw, a pha gynlluniau sydd ganddyn nhw. Wedyn, byddwn yn pleidleisio ar unrhyw gynigion neu eitemau eraill ar yr agenda. Ar ôl hynny, bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Caerdydd
11 Mai 13:00 - 14:00
Ar-lein Microsoft Teams
Abertawe
12 Mai 10:00 - 11:00
Ar-lein Microsoft Teams
Caerfyrddin
12 Mai 15:00 -16:00
Ar-lein Microsoft Teams
Llundain
14 Mai 13:00 - 14:00
Ar-lein Microsoft Teams
Birmingham
20 Mai 10:00 -11:00
Ar-lein Microsoft Teams