Helo! Fy enw i yw Tammy, a fi yw Llywydd newydd campws Llambed! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eich cynrychioli chi i gyd a gweithio tuag at sicrhau bod pob myfyriwr yn Llambed yn cael y profiad prifysgol rydyn ni ei eisiau ac yn ei haeddu. Gallwch gysylltu â fi drwy:
E-bost
Ar hyn o bryd rydw i’n astudio ar gyfer MA mewn Hanes yr Henfyd, ond fe wnes i gwrs BA mewn Gwareiddiad Clasurol yn Llambed ar gyfer fy ngradd gyntaf. Rwy'n credu mai'r peth rwy'n ei fwynhau fwyaf am astudio yn Llambed yw'r amrywiaeth yn y ffordd y mae ein darlithwyr yn addysgu a'r angerdd amlwg sydd ganddyn nhw dros eu pynciau, yn ogystal â'r gefnogaeth anhygoel rydyn ni'n ei derbyn trwy gydol ein hastudiaethau.
Mae gen i sawl blaenoriaeth, yn enwedig o ran Profiad Myfyrwyr yn y sector addysgol ar ôl Covid-19. Rwyf am ganolbwyntio ar fenter iechyd meddwl newydd, gwella hygyrchedd corfforol ac ariannol ein campws, datblygu ein polisi gwyrdd a llawer, llawer mwy. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gan fyfyrwyr rôl weithredol a lleisiol yn y gwaith rwy'n ei wneud eleni, felly os oes rhywbeth rydych chi am i mi weithio arno, gadewch i mi wybod!
Roeddwn yn ymwneud â'r UM cyn i mi gael fy ethol yn Llywydd - chwaraeon a chymdeithasau’n bennaf. Roedd gen i rôl ar bwyllgor tîm rygbi menywod Llambed, tîm pêl-rwyd Llambed a chymdeithas ddawns Llambed ers fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ac o ganlyniad rwyf yn awyddus i weld pob camp a chymdeithas yn cael y gorau o'r UM er mwyn symud ymlaen at bethau mwy a gwell. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ni i gyd ei gyflawni gyda'n gilydd wrth symud ymlaen. Cymerais ran hefyd mewn ambell ddigwyddiad yn yr UM fel Hawlio’r Nos yn Ôl, yn ogystal â chynrychioli UMyDDS yng nghynhadledd UCM Cymru a chynadleddau rhyddhad UCM y DU yn 2019.
Y peth rhyfeddol am fynd i’r brifysgol yw eich bod chi'n cael allan ohono’r hyn rydych chi'n ei roi i mewn; yn ogystal â’ch graddau academaidd, mae hynny hefyd yn wir am weithgareddau allgyrsiol. Felly, fy nghyngor i fyddai os oes gennych chi angerdd am ddemocratiaeth, cynrychiolaeth myfyrwyr, chwaraeon, rhyddhad neu hyrwyddo'r amgylchedd ymhlith llawer o bethau eraill - Cyfranogwch! Mae yna fyfyrwyr ar y campws, rhai newydd a rhai sy'n dychwelyd, sy’n rhannu’r un angerdd, ac mae'r ymdeimlad o gymuned ar gampws Llambed yn unigryw ac yn ysbrydoledig. Ond os ydych chi am aros yn eich ystafell a darllen, mae hynny'n berffaith iawn hefyd.
.